Skip to content

Ble Nesaf?

Dolenni perthnasol

Mae'r adran hon yn disgrifio sut yr ydym yn cefnogi’r rhaglen Prentisiaethau yng Nghymru.
Mae addysg uwch yn rhoi cyfle i chi ganolbwyntio ar bwnc sydd o wir ddiddordeb i chi.
Graffeg "Ble Nesaf?"

Newydd gael eich canlyniadau? Ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf? Wedi gwneud yn well na’r disgwyl? Angen ailystyried eich dewisiadau?

Beth bynnag yw eich canlyniadau, mae gennych ddigon o ddewisiadau a bydd digon o gymorth a chyngor ar gael er mwyn eich helpu i ddewis beth sy’n iawn ar eich cyfer chi. Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y prif ddewisiadau sydd ar gael ar eich cyfer – a ble i gael mwy o gymorth a chyngor.

Beth bynnag a ddaw yn y dyfodol, drwy ddysgu rhywbeth newydd neu wrth ddatblygu eich sgiliau, byddwch chi mewn sefyllfa well i fanteisio ar y cyfleoedd newydd hyn.

Mae’n syniad da i siarad â pherthnasau neu ffrindiau agos. Gallwch hefyd gysylltu â Chynghorwyr Gyrfa Cymru er mwyn cael cyngor a chymorth ymarferol. Mae gwybodaeth am yr holl ddewisiadau hefyd ar gael ar wefan Gyrfa Cymru neu ffoniwch llinell gymorth ar 0800 100 900 (029 2090 6801 os ydych chi ar ffôn symudol).

Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru ar gael i fwy o ddysgwyr mewn ysgolion, colegau a lleoliadau gwaith ledled Cymru. Mae’n rhoi mwy o hyblygrwydd o ran eich astudiaethau, pa bynnag gyrsiau rydych chi’n eu dilyn. Byddwch chi hefyd yn datblygu sgiliau a dulliau dysgu a fydd yn eich paratoi chi ar gyfer addysg bellach,  addysg uwch, a’r byd gwaith. Am fwy o wybodaeth am Fagloriaeth Cymru, ewch i wefan Bagloriaeth Cymru.

Cyllid myfyrwyr

I gael gwybodaeth am gyllid i fyfyrwyr ac am y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr newydd a'r rheini sy'n fyfyrwyr yn barod, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr neu ffoniwch 0845 6028845.