Skip to content

Ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith

Dolenni perthnasol

Leighton Andrews, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth ar gyfer darparwyr dysgu seiliedig ar waith.

Nod Llywodraeth Cymru yw bod mor agored â phosibl ynglŷn â'i gweithgareddau, gan hysbysu darparwyr dysgu o'i phenderfyniadau drwy gylchlythyrau a chyhoeddiadau eraill, a holi eu barn ar ystod eang o faterion mewn dogfennau ymgynghori.

Diben y tudalennau hyn yw rhoi gwybodaeth am bob agwedd ar Ddysgu Seiliedig ar Waith. Mae hyn yn cynnwys y broses dendro bresennol ar gyfer cyflwyno ein rhaglen Prentisiaethau, a'n rhaglenni hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc ac oedolion di-waith rhwng mis Awst 2011 a 2014.

Er mwyn sicrhau y caiff pob ymholiad ei anfon i'r adran gywir o fewn AdAS, gweler y manylion cyswllt priodol isod.

Dylid anfon pob ymholiad cyffredinol am gontractau presennol dysgu seiliedig ar waith i askWBL@cymru.gsi.gov.uk.  Dylid anfon pob ymholiad sy'n ymwneud â data Dysgu Seiliedig ar Waith LLWR@cymru.gsi.gov.uk.

Dylid cyfeirio pob ymholiad ysgrifenedig at:

Y Tîm Darpariaeth i Ddysgwyr
Y Gangen Rheoli Darpariaeth
Yr Is-Adran Addysg Bellach
Yr Adran Addysg a Sgiliau (AdAS)
Tŷ Afon
Ffordd Bedwas
Bedwas
Caerffili
CF83 8WT