Skip to content

Mwy o ddewis a hyblygrwydd

Dolenni perthnasol

Mae Mesur Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Cymru) 2009 (“y Mesur”) yn darparu’r sylfaen statudol ar gyfer Llwybrau Dysgu 14-19.
Mae’r canllawiau hyn yn nodi lleiafswm y cyrsiau astudio y dylid eu cynnwys mewn cwricwlwm lleol a lleiafswm y cyrsiau astudio galwedigaethol.
Mae’r taflenni hyn yn disgrifio sut y caiff yr hyn y mae plentyn wedi’i gyflawni ei gydnabod fel rhan o Lwybrau Dysgu 14-19.
Yn adran hon y wefan, cewch wybodaeth am y cymwysterau hyn a’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 yn gam mawr ymlaen at sicrhau bod mwy o ddewis o ran cwricwlwm a bod cymorth dysgu effeithiol yn cael ei ddarparu i ddysgwyr 14-19 ar hyd a lled Cymru.

O ganlyniad i’r Mesur, bydd pob disgybl yng Nghyfnod Allweddol 4 yn cael dewis o blith o leiaf 30 o gyrsiau, sy’n cynnwys pump sy’n alwedigaethol, a hynny erbyn mis Medi 2012. Bydd cyfleoedd tebyg yn cael eu cyflwyno ar gyfer dysgwyr ôl-16 o fis Medi 2011 ymlaen.

Gyda help eu hathrawon, tiwtoriaid, rhieni neu warcheidwaid, bydd pobl ifanc yn cael y cyfle i astudio amrywiaeth eang o bynciau, yn ogystal â’r pynciau hanfodol fel Mathemateg a Saesneg. Bydd dewis eang o gyrsiau galwedigaethol a all gynnwys profiad gwaith a dysgu y tu allan i’r ysgol. Wrth ddysgu yn yr ysgol neu’r coleg, neu wrth ddilyn hyfforddiant, bydd pobl ifanc yn elwa ar gymysgedd o weithgareddau a chyrsiau i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r byd.

Bydd cynnig mwy o ddewis a hyblygrwydd yn golygu y bydd pobl ifanc yn gallu ennill cydnabyddiaeth mewn amryw o ffyrdd gwahanol a fydd yn cael eu gwerthfawrogi gan brifysgolion, colegau a chyflogwyr.