Skip to content

Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: Canllawiau ar y Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Nod y canllawiau statudol hyn yw rhoi manylion ynghylch sut y bydd Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 yn gweithio yn ymarferol er mwyn bod o fudd i bobl ifanc 14-19 oed, yr economi a chymunedau yng Nghymru. 

Mae Mesur Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Cymru) 2009 (“y Mesur”) yn darparu’r sylfaen statudol ar gyfer Llwybrau Dysgu 14-19.

Mae gan y polisi Llwybrau Dysgu 14-19 y potensial i drawsnewid y ddarpariaeth a’r cymorth i ddysgwyr, codi cyflawniad a chyrhaeddiad, paratoi pobl ifanc ar gyfer swyddi sy’n gofyn am sgiliau ar lefel uwch neu addysg uwch a galluogi Cymru i gystadlu yn Ewrop yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae ymgorffori egwyddorion sylfaenol y polisi hwn mewn fframwaith cyfreithiol yn sicrhau y caiff y polisi ei weithredu mewn modd sy’n gyson er lles disgyblion 14-19 oed ledled Cymru.

Mae a wnelo’r canllawiau hyn â’r cwricwlwm lleol ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4. Bydd Gweinidogion Cymru yn llunio’r cwricwla lleol ar gyfer dysgwyr ôl-16. Bydd Gweinidogion Cymru hefyd yn pennu lleiafswm y cyrsiau astudio y dylid eu cynnwys mewn cwricwlwm lleol a hefyd leiafswm y cyrsiau astudio galwedigaethol er mwyn sicrhau bod cwricwla ardal leol, fel yng Nghyfnod Allweddol 4, yn cynnwys ystod eang o opsiynau astudio: yn academaidd ac yn alwedigaethol eu natur.