Cynorthwy-ydd dosbarth
Pa fath o waith sy’n cael ei wneud?
Fel cynorthwy-ydd dosbarth, byddwch yn cynorthwyo’r athro neu’r athrawes â’i gwaith bob dydd. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm, yn cynllunio gweithgareddau dysgu ac yn darparu amgylchedd sy’n ysgogi’r plant dan do ac yn yr awyr agored.
Mewn diwrnod arferol gallech fod yn helpu plant gyda sesiynau darllen a rhif, celf a chrefft, gweithgareddau chwarae, ac yn gofalu am blant sy’n poeni am rywbeth neu sydd wedi cael damwain. Os ydych yn hoffi plant, byddwch yn hoffi’r swydd hon.
Pa gyfleoedd sydd ar gael i chi?
Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn cyflogi cynorthwywyr dosbarth llawn-amser. Mae cyfleoedd ichi weithio mewn ysgol feithrin yn helpu plant 3–5 oed, mewn ysgol fabanod gyda phlant 3–7 oed neu mewn ysgol gynradd ar gyfer plant o 3 i 11 oed. Un fantais fawr yw na fyddwch yn gweithio yn ystod gwyliau’r ysgol, felly os ydych yn rhiant/gofalwr gallwch gael swydd sy’n caniatáu ichi fod adref yn ystod gwyliau’r ysgol.
Mae llawer o ysgolion hefyd yn rhoi cyfle i wirfoddolwyr ddod i mewn i ddarparu cymorth ychwanegol un-i-un, er enghraifft â darllen a gwaith rhif. Gall hon fod yn ffordd dda o ennill profiad.
Pa gymwysterau fydd arnoch eu hangen?
Gallwch ddod yn gynorthwy-ydd dosbarth heb unrhyw gymwysterau cydnabyddedig ar wahân i’ch cymwysterau TGAU, yn enwedig os oes gennych ddigon o brofiad ymarferol o ofalu am blant fel rhiant/gofalwr neu fel gwirfoddolwr.
Fodd bynnag, ar ôl ichi ddechrau mae’n debyg y byddwch yn cael hyfforddiant cynefino ac yn cael eich annog i astudio hyd at Lefel 2. Gallech hefyd astudio ar gyfer Lefel 3 os ydych am fynd yn eich blaen a bod yn gynorthwy-ydd dysgu lefel uwch, sydd â mwy o gyfrifoldeb a mwy o gyflog.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am fod yn gynorthwy-ydd dosbarth cysylltwch â’ch Awdurdod Addysg Lleol.
Llwybrau gyrfaol:
Meithrinfeydd dydd
Cylchoedd chwarae cyn ysgol a Chylchoedd Meithrin
Gwarchodwyr plant cofrestredig
Clybiau y tu allan i oriau ysgol
Cynorthwy-ydd dosbarth
Gwaith chwarae
