Meithrinfeydd dydd
Pa fath o waith sy’n cael ei wneud?
Mae gweithio mewn meithrinfa yn galw am ddigon o ynni a’r gallu i ddeall anghenion plant. Ond mae’r profiad o’u tywys drwy un o gyfnodau pwysicaf eu datblygiad yn cynnig llawer o foddhad.
Byddech yn ymwneud â gweithgareddau addysgol a gweithgareddau chwarae ac yn gofalu am anghenion personol plant yn ystod amser bwyd a chyfnodau gorffwys. Gallech symud ymlaen i fod yn weinyddes feithrin sy’n gyfrifol am gynllunio a threfnu gweithgareddau, ac yna i faes rheoli, gan oruchwylio cyllid, cyswllt â rhieni a recriwtio.
Pa gyfleoedd sydd ar gael i chi?
Mae meithrinfeydd dydd o bob math yng Nghymru. Rhedir rhai gan grwpiau gwirfoddol neu gymunedol, rhai gan gyflogwyr ac awdurdodau lleol, ac eraill fel busnesau preifat. Maent yn tueddu i ddarparu gofal dydd, addysg a chyfleoedd chwarae llawn i blant hyd at 5 oed, o wyth y bore tan chwech y nos.
Gallant gynnig gwaith rhan-amser neu yrfa lawn-amser.
Pa gymwysterau fydd arnoch eu hangen?
Rhaid i bron bob aelod o staff meithrinfa ddydd fod â chymhwyster Lefel 2. Bydd yn agos at hanner y staff yn meddu ar gymhwyster Lefel 3 neu’n gweithio tuag ato. Er mwyn symud ymlaen i swydd rheolwr rhaid ichi fod â chymhwyster Lefel 3 ac o leiaf 2 flynedd o brofiad. Mae llawer o feithrinfeydd yn derbyn cynorthwywyr meithrin heb unrhyw gymwysterau, ac maent yn awyddus iawn i ddenu staff hŷn sydd â phrofiad o ofalu am eu plant eu hunain. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf yn disgwyl i’w staff hyfforddi hyd at safon Lefel 2.
Os ydych yn awyddus i symud ymlaen ymhellach a derbyn mwy o gyfrifoldebau yna bydd rhaid ichi brofi eich bod yn meddu ar y sgiliau i wneud y gwaith yn dda. Er mwyn bod yn Weinyddes Feithrin neu’n arweinydd neu reolwr tîm, er enghraifft, bydd arnoch angen o leiaf gymhwyster Lefel 3 mewn Gofal Dysgu a Datblygiad Plant neu gymhwyster cyfatebol CACHE Lefel 3 Diploma Gofal Dysgu a Datblygiad Plant.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am weithio mewn meithrinfa ddydd neu am y cymwysterau a nodwyd cysylltwch â Chymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd ar 01824 707 823 www.ndna.org.uk.
Llwybrau gyrfaol:
Meithrinfeydd dydd
Cylchoedd chwarae cyn ysgol a Chylchoedd Meithrin
Gwarchodwyr plant cofrestredig
Clybiau y tu allan i oriau ysgol
Cynorthwy-ydd dosbarth
Gwaith chwarae
