Cylchoedd chwarae cyn ysgol a Chylchoedd Meithrin
Pa fath o waith sy’n cael ei wneud?
Mae cylchoedd chwarae a Chylchoedd Meithrin yn darparu ar gyfer plant 2–5 oed, a hynny fel arfer am 2–3 awr y diwrnod. Mae Cylchoedd Meithrin yn cynnig cyfle i blant ddysgu a datblygu o brofiadau chwarae da drwy gyfrwng y Gymraeg. Gall cylchoedd chwarae a Chylchoedd Meithrin fod yn fusnesau preifat neu’n cael eu rhedeg gan bwyllgor o rieni/gofalwyr lleol ac maent yn aml yn cyfarfod mewn cymunedau, ysgolion neu feithrinfeydd a godwyd at y diben.
Maent yn cydnabod bod plant yn dysgu drwy chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau, felly eich rôl chi fel cynorthwy-ydd cylch chwarae yw helpu arweinydd y cylch chwarae i gyflwyno rhaglen amrywiol o weithgareddau creadigol, llawn dychymyg sy’n gwella potensial dysgu pob plentyn.
Pa gyfleoedd sydd ar gael i chi?
Fel cynorthwy-ydd cylch chwarae neu Cylch Meithrin byddwch yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau gofalu, sgiliau cyfathrebu a sgiliau creadigol gyda’r plant. Gallech hefyd ddod yn arweinydd cylch chwarae neu Gylch Meithrin, â chyfrifoldeb am oruchwylio a chefnogi’r staff a’r gwirfoddolwyr. Fel arweinydd byddech yn cysylltu â rhieni, sy’n cael eu hannog i chwarae rhan weithredol ac sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr oherwydd y cyfraniad y maent yn ei wneud.
Pa gymwysterau fydd arnoch eu hangen?
Ym mhob cylch chwarae neu Gylch Meithrin, mae angen i o leiaf hanner y cynorthwywyr fod â chymhwyster Lefel 2, felly mae cael cymwysterau addas yn amlwg yn fanteisiol. Os ydych yn awyddus i fynd ymlaen i fod yn arweinydd cylch chwarae neu Gylch Meithrin yna bydd arnoch angen cymhwyster Lefel 3 mewn Gofal Dysgu a Datblygiad Plant Cynnar, neu gymhwyster uwch. Bydd angen ichi fod ag o leiaf ddwy flynedd o brofiad ym maes gofal plant a bydd angen i chi gael cymhwyster Cymorth Cyntaf. Mae angen i arweinwyr Cylchoedd Meithrin fod yn rhugl yn y Gymraeg hefyd.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am weithio mewn cylch chwarae cyn ysgol neu gylch meithrin, neu am y cymwysterau a nodwyd cysylltwch â Chymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn Ysgol Cymru ar 01686 624 573 www.walesppa.org neu Mudiad Ysgolion Meithrin ar 01970 639 639 www.mym.co.uk.
Llwybrau gyrfaol:
Meithrinfeydd dydd
Cylchoedd chwarae cyn ysgol a Chylchoedd Meithrin
Gwarchodwyr plant cofrestredig
Clybiau y tu allan i oriau ysgol
Cynorthwy-ydd dosbarth
Gwaith chwarae
