Gwarchodwyr plant cofrestredig
Pa fath o waith sy’n cael ei wneud?
Mae bod yn warchodwr plant cofrestredig yn rhoi cyfle ichi weithio yn eich cartref eich hun gan ofalu am blant pobl eraill. Mae hyn yn golygu y byddwch yn dod i adnabod y plant y byddwch yn gofalu amdanynt yn dda iawn ac yn chwarae rhan bwysig yn eu bywydau. Byddwch yn helpu plant i ddatblygu â llawer o weithgareddau, gan gael hwyl gyda nhw wrth iddynt chwarae a rhannu eu llwyddiannau wrth iddynt dyfu.
Ar ddiwrnod arferol gallech fod yn danfon a nôl plant o’r ysgol; yn galw yn y parc ar y ffordd adref; yn peintio lluniau gyda’r plant bach tra mae’r babi’n cysgu; yn mwynhau rhywbeth bach i’w fwyta ar ôl yr ysgol ac yn darllen stori wrth aros am rieni’r plant.
Pa gyfleoedd sydd ar gael i chi?
Mae bodlonrwydd mewn swydd yn amhrisiadwy. Byddwch yn cael y pleser o fagu plant yn eich cartref eich hun gan ennill cyflog llawn-amser yr un pryd. Mae llawer o warchodwyr plant hefyd yn rhieni/gofalwyr plant ifanc eu hunain ac yn gofalu am blant eraill yr un pryd. Mae llawer o gefnogaeth a chyngor ar gael i’ch helpu i gychwyn a gallech fod yn gymwys i dderbyn rhywfaint o arian i helpu i sefydlu eich busnes.
Pa gymwysterau fydd arnoch eu hangen?
Rhaid i bob gwarchodwr plant newydd ddilyn hyfforddiant er mwyn cofrestru. Rhaid ichi gwblhau’r cwrs Cyflwyniad i Arferion Gofal Plant (cartref), sydd wedi’i deilwrio ar gyfer pobl sy’n gofalu am blant mewn cartref teuluol, yn hytrach na chanolfan, fel meithrinfa. Bydd angen ichi hefyd gael tystysgrif cymorth cyntaf sy’n ymwneud â chymorth cyntaf i blant a babanod, a chadw’r sgiliau cymorth cyntaf hynny, yn ogystal â chwblhau cwrs hylendid bwyd.
Pan fyddwch wedi dechrau gweithio fel gwarchodwr plant, mae’n bosib y cewch gyfle i ddilyn mwy o hyfforddiant, o sesiynau unigol ar bynciau fel chwarae a gwneud llanast i gymwysterau ffurfiol fel y Ddiploma mewn Gofal Plant yn y Cartref. Os ydych am ofalu am blant dan wyth oed bydd angen ichi gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a dangos sut rydych yn bodloni’r safonau cenedlaethol ar gyfer gwarchod plant.
Gallwch hefyd ymuno â’r gymdeithas broffesiynol ar gyfer gwarchodwyr plant, sef y Gymdeithas Genedlaethol Gwarchod Plant. Byddwch yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am faterion pwysig ym maes gwarchod plant yn rheolaidd, yn ogystal â gostyngiad ar waith papur y Gymdeithas, fel contractau a chofrestrau presenoldeb, a all fod o gymorth i ochr ariannol eich gyrfa newydd.
Os hoffech wybod mwy am ffyrdd o ddod yn warchodwr plant cofrestredig neu am y cymwysterau a nodwyd cysylltwch â Chymdeithas Genedlaethol Gwarchod Plant ar 0845 880 0044 www.ncma.org.uk.
Llwybrau gyrfaol:
Meithrinfeydd dydd
Cylchoedd chwarae cyn ysgol a Chylchoedd Meithrin
Gwarchodwyr plant cofrestredig
Clybiau y tu allan i oriau ysgol
Cynorthwy-ydd dosbarth
Gwaith chwarae
