Skip to content

Sarah Rowlands – gweithiwr cylch chwarae

chwarae dysgu tyfu - Gweithio ym maes y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae

Sarah Rowlands – gweithiwr cylch chwarae

Ym mhle rydych chi’n gweithio?

Rwy’n weithiwr cylch chwarae yng Nghanolfan Blant Trehafren yn y Drenewydd, Powys.

Sut wnaethoch chi ddod yn weithiwr cylch chwarae?

Mi fues i’n gwneud gwaith gwirfoddol yn y ganolfan pan oedd fy mhlant i’n ifanc. Pan wnaethon nhw ddechrau mynd i’r ysgol, mi wnes i fynd yn ôl i’r coleg ac astudio ar gyfer Diploma mewn Ymarfer Cylchoedd Chwarae wrth weithio yn y cylch chwarae.

Ydy hi’n bwysig cael cymwysterau?

Ydy, mae cymwysterau’n bendant yn bwysig. Erbyn hyn rydw i wedi gwneud fy NVQ Lefel Tri ac rydw i hefyd wedi gwneud llawer o gyrsiau byr, sy’n ddiddorol ac sy’n rhoi llawer o syniadau newydd i chi.

Beth ydych chi’n ei wneud yn eich gwaith?

Rwy’n ymwneud â phob agwedd ar y gwaith o redeg y cylch o ddydd i ddydd - asesu’r plant fel ein bod yn deall beth yw eu hanghenion unigol, cynllunio ystod eang o weithgareddau fel cerddoriaeth, crefftau, celf a chrefft a chwarae rôl. Rydw i hefyd yn cefnogi rheolwr y cylch chwarae.

Beth yw’r her fwyaf rydych yn ei hwynebu yn eich gwaith?

Weithiau rydych chi’n gorfod delio gyda rhieni sydd ddim yn gefnogol iawn. Mae’n rhaid ichi weithio’n galetach wedyn i gyfathrebu gyda nhw a’u cael nhw i ddeall beth rydych chi’n ceisio’i gyflawni gyda’r plant.

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf ynglŷn â’ch gwaith?

Teimlo fy mod i wedi cyflawni rhywbeth pan fyddaf i’n gweld plant yn dysgu pethau newydd ac yn datblygu fel unigolion.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gyrfa fel gweithiwr cylch chwarae?

Mae angen digon o synnwyr cyffredin a stamina gan fod y gwaith yn cymryd llawer ohonoch chi, yn feddyliol ac yn gorfforol. Mae chwarae’n gallu bod yn waith caled!

 Nôl i'r astudiaeth achos

Dolenni perthnasol

Os ydych am wybod sut swyddi ydyn nhw mewn gwirionedd, y peth gorau ichi ei wneud yw gwrando ar bobl sy’n gweithio yn y maes yn barod.
"Dechreuodd fy nghysylltiad â’r cylch chwarae pan ddechreuodd fy merch hynaf fynd iddo..."