Yn gweithio yn y sector yn barod?
Ydych chi wedi hyfforddi hyd at Lefel 2 neu 3 mewn cymhwyster cydnabyddedig?
Mae’n bosib nad ydych yn newydd i’r sector. Felly ydy’r wybodaeth yma’n berthnasol i chi? Yn syml iawn, ydy, mae’n berthnasol iawn i chi. Efallai eich bod yn gwybod bod deddfwriaeth newydd ar fin cael ei chyflwyno ac y bydd y rheolau newydd hyn yn effeithio ar bawb sy’n gweithio yn y sector gofal plant.
Mae hyn yn golygu y bydd angen i bob uwch aelod o staff, a staff sy’n gyfrifol am grŵp o blant, fod wedi’u hyfforddi hyd at Lefel 3 ac y bydd angen i 50% o’r holl bobl eraill sy’n gweithio yn y sector gael Lefel 2 erbyn Ebrill 2008. Bydd yn ofynnol i bobl sy’n newydd i faes gwarchod plant gwblhau cwrs Uned Un – Cyflwyniad i Arferion Gofal Plant (cartref). Gall hyn arwain maes o law at Ddiploma Lefel 3 mewn Gofal Plant yn y Cartref.
Dyfodol disglair i chi a’r plant rydych yn gofalu amdanynt
Mae’r cyfan yn rhan o ymgyrch i adeiladu ar y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud bob diwrnod gan filoedd o weithwyr proffesiynol talentog iawn yng Nghymru. Mae angen gwella proffil y sector a denu pobl newydd iddo, pobl â chymhelliad cryf, sydd â sgiliau da, ac a fydd yn gwerthfawrogi’r yrfa sydd ganddynt – pobl sy’n meddu ar yr ymrwymiad, yr ynni a’r brwdfrydedd sydd ei angen er mwyn bod yn fodelau rôl cadarnhaol i’n plant ifanc.
Bydd y sector yn ffynnu a byddwch chithau’n cael pob cyfle i fod yn rhan o’i lwyddiant. Drwy ganolbwyntio ar eich sgiliau, byddwch yn gallu ennill y cymwysterau newydd sy’n helpu i ehangu eich arbenigedd a’ch profiad, ac agor drysau newydd. Dyma’r amser i wneud y gorau o’ch talentau.
Er mwyn canfod pa hyfforddiant sydd ar gael i chi, cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth Plant lleol (manylion ar y dudalen Cysylltiadau defnyddiol) neu cysylltwch â learndirect 0800 100 900 neu chwiliwch am Ddewisiadau Dysgu dan www2.careerswales.com/lcd
