Pa sgiliau fydd arnaf eu hangen?
Yn bennaf oll mae angen gallu naturiol i drin plant, digon o ynni, blaengaredd, sgiliau cyfathrebu, dawn greadigol a dychymyg. Gallwch ddilyn hyfforddiant wedyn er mwyn adeiladu ar y rhinweddau hyn.
Cael mwy o foddhad o’ch gwaith
Nid oes angen cymwysterau bob amser er mwyn gweithio gyda phlant, ond maent yn agor y drysau i fwy o swyddi a gyrfaoedd. Mae digon o gyfleoedd i gael hyfforddiant sy’n arwain at gymwysterau cydnabyddedig y dyddiau hyn, felly peidiwch ag anobeithio. Mae’n werth ystyried y dewisiadau.
Mae cyrsiau erbyn hyn sy’n caniatáu i chi ddysgu ar eich cyflymder eich hun. Gallwch hyfforddi’n rhan-amser, yn llawn-amser, gartref, yn y coleg neu hyd yn oed wrth weithio.
Pa un a ydych yn ystyried swydd lawn-amser, gweithio ychydig oriau yr wythnos, neu sefydlu eich busnes eich hun, byddwch yn mynd ymhellach ac yn cael mwy fyth o fwynhad o’r gwaith os ydych wedi cael hyfforddiant priodol.
Er mwyn cael gwybodaeth am yr hyfforddiant sydd ar gael, cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth Plant lleol (manylion ar y dudalen Cysylltiadau defnyddiol) neu cysylltwch â learndirect ar 0800 100 900 neu chwiliwch am Ddewisiadau Dysgu yn www2.careerswales.com/lcd.
Cyswllt:
Chwarae Dysgu Tyfu: fideo [.mov 940KB]
Cyswllt:
Chwarae Dysgu Tyfu: fideo [.wmv 811KB]
