Sut ac ym mhle y gallaf i ddysgu?
Os ydych yn sicr mai hon yw’r yrfa i chi, yna gallwch chwilio am y cwrs priodol a’r hyfforddiant sydd ei angen er mwyn symud ymlaen yn eich swydd.
Gallwch ddewis dysgu yn y gwaith, neu gallwch fynychu Coleg Addysg Bellach neu Ganolfan Addysg Oedolion a hyfforddi felly. Neu gallwch hyfforddi gydag unrhyw un o’r Sefydliadau Gofal Plant Cenedlaethol sy’n cael eu rhestru yn yr adran Cysylltiadau defnyddiol.
Dysgu seiliedig ar waith
Mae Prentisiaethau Modern yn rhoi cyfle i chi hyfforddi wrth weithio, sy’n golygu y gallwch gael yr arbenigedd a’r cymwysterau angenrheidiol heb orfod astudio’n llawn-amser. Fel prentis mae’n debyg y bydd eich wythnos waith yn cynnwys pedwar diwrnod mewn gwaith a diwrnod mewn coleg neu gyda darparwr, lle byddwch yn astudio’r theori sy’n ymwneud yn benodol â’ch gwaith.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth cysylltwch â learndirect ar 0800 100 900 neu cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth Plant lleol (manylion yn yr adran Cysylltiadau defnyddiol) neu ymwelwch ag www2.careerswales.com/lcd i chwilio am gwrs.
Colegau AB a Chanolfannau Addysg Oedolion
Mae cyfle ichi hefyd astudio nifer o wahanol gyrsiau llawn-amser a rhan-amser yn eich Coleg AB neu’ch Canolfan Addysg Oedolion leol. Os byddwch yn dilyn y trywydd dysgu hwn byddwch hefyd yn cael cyfle i dreulio amser mewn gweithle go iawn yn ennill profiad hanfodol.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am gyrsiau a chyfleoedd ar gyfer gyrfa yn eich ardal chi, cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth Plant lleol (manylion yn yr adran Cysylltiadau defnyddiol), ffoniwch learndirect ar 0800 100 900 neu ymwelwch ag www.mylocalcollege.com er mwyn cael gwybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael yn eich Coleg AB lleol.
