Skip to content

Llwybrau Dysgu 14-19

Mae Llwybrau Dysgu 14-19 yn ymrwymiad i weddnewid yr addysg sy’n cael ei darparu i holl bobl ifanc Cymru. Mae’n mynd i’r afael â’r angen i addysgu disgyblion 14-19 oed mewn modd hyblyg a chytbwys.

Mae chwe elfen allweddol i’r fframwaith, ac mae rhai o’r rhain yn unigryw i Gymru.

Mae’r chwe elfen hyn yn perthyn i ddau gategori penodol - y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr a’r cymorth i ddysgwyr.

Dyma dair elfen y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr:

  • Llwybr Dysgu Unigol: – gan gynnwys dysgu ffurfiol, dysgu heb fod yn ffurfiol, a dysgu anffurfiol 
  • Mwy o Ddewis a Hyblygrwydd - gan gynnwys opsiynau cyffredinol a phenodol i ddysgwyr o bob gallu
  • Y Craidd Dysgu - gan ehangu dysgu, sgiliau a phrofiadau er mwyn sicrhau cyfle cyfartal.

Dyma dair elfen y cymorth i ddysgwyr:

  • Anogwr Dysgu - mwy o gymorth dysgu dwysach ar gael i’r rhai mwyaf anghenus
  • Cymorth Personol - er mwyn helpu i oresgyn yr hyn sy’n rhwystro pobl ifanc rhag dysgu
  • Cyngor a Chyfarwyddyd ynghylch Gyrfaoedd - er mwyn sicrhau cyngor arbenigol diduedd ar ddewisiadau o ran gyrfaoedd.

Deddfwriaeth

Nod y Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) arfaethedig yw ysgogi’r gwaith o weithredu Llwybrau Dysgu 14-19. Mae’n nodi sut yr ydym am fynd ati i ddarparu addysg i ddysgwyr 14-19 oed. Bydd y mesur yn sicrhau bod dewis ehangach ar gael i bob dysgwr 14-19 oed mewn ysgolion a cholegau.

Mae’r mesur hwn yn ceisio sefydlu fframwaith cyfreithiol sy’n gydnaws â’r polisi ar gyfer Llwybrau Dysgu 14-19. Bydd yn ei gwneud yn bosibl i ddatblygu’r fframwaith cyfreithiol wrth i’r polisi ddatblygu.

Y nod yn anad dim yw rhoi’r hawl i ddysgwyr rhwng 14 a 19 oed ddilyn cwrs astudio o gwricwlwm ardal leol. 

Dyma’r amserlen arfaethedig ar gyfer rhoi’r ddeddfwriaeth arfaethedig ar waith:

  • Medi 2009 – Myfyrwyr Blwyddyn 10 (Anstatudol)
  • Medi 2010 – Myfyrwyr Blynyddoedd 10 ac 11 
  • Medi 2011 – Myfyrwyr Blynyddoedd 10, 11, a 12 
  • Medi 2012 – Myfyrwyr Blynyddoedd 10,11,12, a 13