Skip to content

NAFWC 47/2006 - Canllawiau Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cerigyn wedi eu llwio
Mae’r canllawiau hyn yn ymdrin â chynnwys a chynorthwyo dysgwyr o oed ysgol gorfodol (er y bydd rhai elfennau yn gymwys i bob dysgwr). Mae’n rhoi cyngor ac yn nodi’r cyfrifoldebau ar gyfer cynnal lefelau presenoldeb uchel ac ymddygiad cadarnhaol mewn ysgolion a’r angen i gynorthwyo disgyblion ag anghenion ychwanegol i sicrhau eu bod yn derbyn addysg addas ac nad ydynt yn colli diddordeb mewn addysg. Mae’n delio ag addysg a ddarperir y tu allan i’r ysgol hefyd.

Mae’r canllawiau yn disodli’r arweiniad a geir ar hyn o bryd yng Nghylchlythyr 3/99 Llywodraeth Cynulliad Cymru: Cynnal Disgyblion a Chynhwysiant Cymdeithasol. Mae’r canllawiau ar fynd i’r afael â bwlio (Parchu Eraill: Cylchlythyr 23/2003 Cynulliad Cenedlaethol Cymru) a gwaharddiadau (Cylchlythyr 1 ac 1A/2004 Cynulliad Cenedlaethol Cymru) eisoes wedi’u dosbarthu. Er nad yw’r canllawiau eu hunain yn statudol maent yn nodi’r ddeddfwriaeth benodol y mae’n rhaid i awdurdodau lleol, ysgolion a’u partneriaid gydymffurfio â hwy.

I grynhoi, mae’r prif newidiadau i’r canllawiau blaenorol fel a ganlyn:

  • Cyflwyno fframwaith ar gyfer cynhwysiant er mwyn hyrwyddo mynediad at addysg a dileu rhwystrau sy’n atal dysgu i bob disgybl.
  • Mabwysiadu’r term ‘Anghenion Dysgu Ychwanegol’ wrth ddelio â’r dysgwyr hynny sydd ag anghenion mwy na mwyafrif eu cyfoedion.
  • Adlewyrchu datblygiadau polisi diweddar, gan gynnwys trefniadau newydd o dan Ddeddf Plant 2004, Llwybrau Dysgu 14-19, a’r agendâu Hawl Bore Oes ac Ymestyn Hawliau.
  • Dod â pholisïau presenoldeb, ymddygiad a gwrth-fwlio at ei gilydd o fewn dull ysgol-gyfan.
  • Canllawiau mwy manwl ar gynorthwyo disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Atodiadau arbennig yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol megis rhestri gwirio ar gyfer arfer cynhwysol.
  • Codau cofrestru presenoldeb newydd - a anfonwyd i bob ysgol ym Mai 2004.
  • Cyflwyno targedau presenoldeb lefel ysgol ar gyfer ysgolion cynradd, a hynny ar bob absenoldeb yn hytrach na dim ond absenoldebau heb eu hawdurdodi.
  • Mwy o bwyslais ar wella lefel a defnydd gwybodaeth sydd ar gael am ddisgyblion sy’n derbyn addysg y tu allan i’r ysgol yn ogystal
    â’r disgyblion hynny sy’n symud neu’n ymuno ag ysgolion.
  •  Adran newydd ar gyfrifoldebau awdurdodau lleol ac ysgolion i’r disgyblion hynny a addysgir gartref gan eu rhieni.
  • Canllawiau newydd ar ddarparu addysg i rieni ifanc.
  • Canllawiau ar ddarpariaethau newydd o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 sef Gorchmynion Rhianta ar gyfer problemau mddygiadol a Chontractau Rhianta ar gyfer presenoldeb gwael a phroblemau ymddygiad.