Skip to content

Camddefnyddio Sylweddau: Plant a Phobl Ifanc: Cylchlythyr 17/02

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.

Caiff yr agenda weithredu yng nghyswllt camddefnyddio sylweddol ei gosod hyd at 2008 yn Delio â Chamddefnyddio Sylweddau yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn Ebrill 2000. Un o amcanion pennaf y strategaeth hon yw helpu plant a phobl ifanc i beidio â chamddefnyddio sylweddau. Yn y ddogfen ceir canllawiau ymarfer da i sefydliadau yn y sectorau statudol, gwirfoddol ac annibynnol sy'n cynnig cyfleoedd addysgol i blant a phobl ifanc.

Y pwyntiau allweddol a godir yn y ddogfen hon yw:

  • Yr angen am bolisi effeithiol o fewn sefydliadau i roi sylw i faterion camddefnyddio sylweddau.
  • Dylai sefydliadau gydnabod yr angen i ymdrin â chamddefnyddio sylweddau mewn modd cydlynus a dynodi aelod o'r staff i'r rôl honno.
  • Mae angen ymateb yn briodol ac mewn modd cyson o fewn yr amgylchedd addysgol ehangach i ddigwyddiadau yn ymwneud â phlant a phobl ifanc a sylweddau.
  • Gall rhaglenni addysg barhaus, sy'n rhoi pwyslais ar ddulliau sgiliau byw yng nghyd-destun sefydliad cyfan, effeithio ar gamddefnyddio sylweddau.
  • Mae i'r seilwaith, sy'n gefn i weithredu Delio â Chamddefnyddio Sylweddau yng Nghymru, rôl i gefnogi sefydliadau sy'n darparu cyfleoedd addysgol i blant a phobl ifanc.
  • Mae'r amrywiaeth eang o sylweddau, cyfreithiol ac anghyfreithiol, a gamddefnyddir yng Nghymru wedi'u cynnwys yn y canllawiau hyn e.e. tybaco, alcohol, cyffuriau anghyfreithlon, meddyginiaethau a geir ar bresgripsiwn yn unig, meddyginiaethau a brynir dros y cownter a sylweddau anweddol.
  • Mae camddefnyddio sylweddau yn nodwedd gyffredin ym mywydau cyfran sylweddol o blant a phobl ifanc.
  • Mae yna swmp cynyddol o dystiolaeth ynglyˆn â gwaith effeithiol i atal camddefnyddio sylweddau a'r dystiolaeth honno sy'n arwain yr ymarfer gorau.