Skip to content

Ieithoedd Tramor Modern yng Nghyfnod Allweddol 2: Gwahoddiad i Gyflwyno Cynigion: Cylchlythyr 41/02

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu cefnogi prosiectau peilot ar gyfer dysgu Ieithoedd Tramor Modern (ITM) yng Nghyfnod Allweddol 2 o’r flwyddyn academaidd 2003-04 ymlaen. Mae’r fenter hon yn ffurfio rhan o strategaeth genedlaethol Llywodraeth y Cynulliad ar Ieithoedd Tramor Modern (ITM), sef Ieithoedd sy’n Cyfrif. Mae’r Cylchlythyr hwn yn gwahodd cynigion ar gyfer cynnal prosiectau peilot a gefnogir o dan y cynllun newydd hwn. Gall cynigion gael eu cyflwyno gan Awdurdodau Addysg Lleol (AALl) neu drwy glystyrau uwchradd-cynradd gyda chymorth eu AALl. Mae angen anfon cynigion atom erbyn 28 Chwefror 2003. Gellir gweld y Cylchlythyr a Ffurflen Gynnig ar gyfer Prosiectau trwy glicio ar y dolenni cyswllt isod.

Llwytho: Cylchlythyr 41/02: Ieithoedd Tramor Modern yng Nghyfnod Allweddol 2: Gwahoddiad i Gyflwyno Cynigion [.pdf 446KB] 

Llwytho: Ffurflen Gynnig ar gyfer Prosiectau [.pdf 28.1 KB]