Skip to content

Gwahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion: Cylchlythyr 1/04

Mae’r canllawiau hyn yn cwmpasu gwahardd disgyblion o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, y gweithdrefnau ar gyfer apelio yn erbyn gwaharddiad, a’r camau i’w cymryd i sicrhau bod disgyblion a waharddwyd yn parhau i gael eu haddysgu. Mae'r canllawiau yn disodli’r canllawiau hynny ym Mhennod 6 ac Atodiad E o Gylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3/99: Cymorth i Ddisgyblion a Chynhwysiant Cymdeithasol.

Mae'r canllawiau yn seiliedig ar y gyfres gyntaf o reoliadau ar gyfer Cymru sy'n rheoli gwaharddiadau ac apelau ar gyfer ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion a ddaeth i rym ar 9 Ionawr 2004, gan ddisodli'r darpariaethau blaenorol yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Yn gryno, y prif newidiadau i'r canllawiau a'r gweithdrefnau yw:

  • Cyflwyno’r hawl i bob disgybl 11 oed neu drosodd apelio yn erbyn gwaharddiad
  • Cyflwyno'r hawl i safbwynt pob disgybl a waharddwyd gael ei glywed ym Mhwyllgor Disgyblu y Corff Llywodraethu a gwrandawiadau'r Panel Apêl Annibynnol
  • Bydd gwaharddiadau amser cinio yn cael eu cyfrif fel chwarter diwrnod a byddant yn cyfrif tuag at yr hawl i apelio yn erbyn gwaharddiad
  • Cael gwared â’r rheidrwydd awtomatig i bwyllgorau disgyblu gyfarfod yn achos gwaharddiadau rhwng 6 ac 15 diwrnod
  • Newidiadau yng nghyfansoddiad panelau apêl annibynnol
  • Cyflwyno trydydd dewis fel y gall panelau apêl benderfynu gwrthdroi’r penderfyniad i wahardd ond peidio â derbyn y plentyn yn ôl i’r ysgol wreiddiol (i’w ddefnyddio mewn achosion eithriadol yn unig)
  • Cyflwyno amod na ellir newid penderfyniad i wahardd yn unig am na lwyddwyd i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad gweithdrefnol
  • Newidiadau yn y trefniadau ar gyfer yr arian sy’n dilyn disgyblion a waharddwyd
  • Newidiadau yn y trefniadau ar gyfer darparu addysg lawn amser i ddisgyblion a waharddwyd.

Dogfen i'w lawrlwytho: Gwahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion: Cylchlythyr 1/04 [.pdf 420.8KB]

Dogfen i'w lawrlwytho: Gwahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion: Cylchlythyr 1(A) 2004 [.pdf 349KB]

Dogfen i'w lawrlwytho: Gwahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion: Testun wedi'i gyfuno [.pdf 860.4KB]