Skip to content

Cymorth I Ddisgyblion Ag Anghenion Meddygol Arbennig Mewn Ysgolion: Cylchlythyr 34/97

Bydd gan y mwyafrif o ddisgyblion rywbryd neu ei gilydd gyflwr meddygol a all effeithio ar y ffordd y maent yn cymryd rhan yng ngweithgareddau'r ysgol. I lawer, dros gyfnod byr y bydd hynny'n para; o bosibl dim a i gwblhau cwrs o foddion.  Bydd gan ddisgyblion eraill anhwylderau meddygol a allai, pe na baent yn cael eu rheoli'n iawn, gyfyngu ar yr addysg y gallant ei chael. Bernir bod gan ddisgyblion felly anghenion meddygol. Gall y mwyafrif o blant sydd ag anghenion meddygol fynd i'r ysgol yn rheolaidd, a chyda rhywfaint o gymorth gan yr ysgol, gallant gymryd rhan yn y mwyafrif o weithgareddau arferol yr ysgol. Er hynny, hwyrach y bydd angen i staff yr ysgol gymryd gofal ychwanegol wrth oruchwylio rhai gweithgareddau i sicrhau nad yw'r disgyblion hyn, nac eraill, mewn perygl.

Mae’r Cylchlythyr hwn yn nodi’r fframwaith gyfreithiol ar gyfer y ysgolion prif-ffrwd ac AALI wrth gynorthwyo disgyblion ag anghenion meddygol. Gallai’r canllawiau fod yn fuddiol hefyd i ysgolion arbennig, ysgolion meithrin, a cholegau Addysg Bellach. Mae’r canllawiau:

  • yn crynhoi’r prif ddarpariaethau cyfreithiol sy’n effeithio ar gyfrifoldebau ysgolion o ran rheoli anghenion meddygol disgybl;
  • yn argymell bod ysgolion yn llunio polisiau a gweithdrefnau i gynorthwyo disgyblion sydd ag anghenion meddygol;
    yn awgrymu bod cynlluniau gofal iechyd, sy’n cynnwys trefniadau ar gyfer rhoi moddion, yn cael eu darparu ar gyfer disgynlion ag anghenion meddygol.

Mae’r Cylchlythyr yn adlewyrchu ymgynghori helaeth ag undebau athrawon, AALI, gwasanaethau iechyd a chyrff gwirfoddol, ac yr ydym yn gwerthfawrogi’n fawr eu cymorth i gyd.  

Llwytho: Cylchlythyr 34/97:Cymorth I Ddisgyblion Ag Anghenion Meddygol Arbennig Mewn Ysgolion [.pdf 19KB] 
Llwytho: Cylchlythyr 34/97: Cymorth I Ddisgyblion Ag Anghenion Meddygol: Arweiniad I Arferion Da [.pdf 133KB]