Skip to content

Grantiau Cymhelliant ar gyfer Hyfforddiant TAR (Addysg Bellach) i Athrawon yng Nghymru 2004/05: Canllawiau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.

Mae’r canllawiau hyn yn darparu gwybodaeth ynghylch cymhelliant ar gyfer hyfforddiant TAR (Addysg Bellach) yng Nghymru ac yn amlinellu’r cyllid sydd ar gael, cymhwyster a sut mae gwneud y taliadau.

Maent yn berthnasol i rai dan hyfforddiant ar gyrsiau llawn amser TAR (Addysg Bellach) sy’n cynnig hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac yn arwain at gymhwyster ar gyfer dysgu addysg bellach gan ddechrau rhwng Medi 2004 ac Awst 2005. Nid yw’r cwrs yn arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC).

Gellir talu grant o £6,000 yn ystod y cwrs TAR (Addysg Bellach).

Mae’r canllawiau yn ymgorffori gwybodaeth ar gyfer darparwyr hyfforddiant cychwynnol i athrawon TAR (Addysg Bellach) ynglyˆn â’r trefniadau manwl ar gyfer gwneud taliadau a’r ffurflenni fydd angen eu cwblhau.

Mae manylion llawn wedi eu cynnwys yn y canllawiau. Dylid darllen y canllawiau hyn yn eu cyfanrwydd at ddibenion cadarnhau argaeledd grant.