Skip to content

Dyddiad Ymadel â'r Ysgol i Ddisgyblion 16 Oed: Cylchlythyr 49/97

Erbyn hyn, mae’r mwyafrif helaeth o blant yn aros mewn addysg amser-llawn ymhell y tu hwnt i 16 oed. Tan nawr, gallai rhai disgyblion 16 oed ymadael yn gyfreithiol â’r ysgol cyn diwedd y flwyddyn - naill ai adeg y Pasg neu ar ddiwedd Mai, yn dibynnu ar eu dyddiad geni. Bu i adran 8(4) o Ddeddf Addysg 1996 newid hyn; pennwyd un dyddiad newydd ar gyfer ymadael â’r ysgol ym 1998 a’r blynyddoedd dilynol, sef y dydd Gwener olaf ym Mehefin yn y flwyddyn ysgol pryd y mae’r plentyn yn cyrraedd 16 oed.

Bwriad y Llywodraeth wrth gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon yw sicrhau bod addysg plentyn yn parhau o leiaf tan yr haf sy’n cwblhau un mlynedd ar ddeg o addysg orfodol. Mae’r dyddiad a ddewiswyd yn cyd-fynd â diwedd y prif gyfnod arholiadau. Dylai hyn ganiatáu felly i fwy o blant sefyll arholiadau TGAU, GNVQ a chymwysterau eraill a llwyddo ynddynt, ni waeth a ydynt ar gofrestr ysgol ai peidio. Ond mae’r dyddiad hwn yn gyfrwymol hyd yn oed ar blant nad ydynt yn sefyll arholiadau ac asesiadau. Y ddyletswydd yw sicrhau bod pob plentyn yn manteisio ar addysg addas, mewn ysgol neu fel arall, tan y dyddiad cyfreithiol.

Mae’r Cylchlythyr hwn yn cynnig gwybodaeth am gyflwyno un dyddiad ymadael â’r ysgol ym Mehefin ar gyfer Cymru a Lloegr, ac yn cynnig cyngor ar y canlyniadau i ysgolion ac eraill.  Noder bod yr isod yn berthnasol i bob disgybl tan y dyddiad hwnnw:

  • Rhaid i rieni a gwarcheidwaid sicrhau bod eu plentyn yn cymryd rhan mewn addysg, yn yr ysgol neu fel arall;
  • Rhaid i’r awdurdodau addysg lleol sicrhau y darperir addysg addas;
  • Ni all cyflogwr gyflogi plentyn yn amser-llawn;
  • Ni all darparwyr hyfforddiant ddarparu hyfforddiant llawn-amser a noddir gan y Llywodraeth.

Llwytho: Dyddiad Ymadel â'r Ysgol i Ddisgyblion 16 Oed: Cylchlythyr 49/97 [.pdf 53KB]