Skip to content

Addysg ar gyfer Dinasyddiaeth Fyd-Eang Map i Gynllunwyr Cwricwlwm

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd sylwadau golygyddol ar ddogfen ddrafft sy'n ceisio helpu ysgolion uwchradd i gynllunio ac i ddatblygu rhaglen Addysg ar gyfer Dinasyddiaeth Fyd-eang, yn cwmpasu gweithgareddau dysgu ar draws cwricwlwm yr ysgol. Bydd o ddefnydd hefyd i asiantaethau sy'n cefnogi Addysg ar gyfer Dinasyddiaeth Fyd-eang mewn ysgolion uwchradd a sefydliadau sy'n gweithio gydag athrawon neu sy'n darparu HMS o fewn ysgol neu AALl.

Mae'r ddogfen yn edrych ar holl brif feysydd y cwricwlwm ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 ac ystod o gyrsiau y mae disgyblion yn eu dilyn ar lefel Cyfnod Allweddol 4 ac ôl-16.

Yn ogystal, mae'r ddogfen hon yn cynnig ffyrdd y gall cwricwlwm yr ysgol gael ei gysylltu ag Addysg dros Ddatblygu Cynaliadwy ac Addysg dros Gydraddoldeb Hiliol.

Llwytho: Addysg ar gyfer Dinasyddiaeth Fyd-Eang Map i Gynllunwyr Cwricwlwm [.pdf 452KB]