Skip to content

Adroddiad Blynyddol i Ysgolion - Blwyddyn Academaidd 2009-2010

Dolenni perthnasol

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i system o ysgolion cyfun cymunedol sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Saesneg neu’r Gymraeg, yn ddwyieithog neu yn unol â ffydd.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Nod yr adroddiad yw rhestru’r holl ddogfennau yr anfonodd y Gweinidog at benaethiaid yng Nghymru yn y flwyddyn academaidd flaenorol (2009-10). Y nod yw rhoi’r holl ganllawiau mewn un adroddiad er mwyn bod yn gyfeirbwynt brys i chi, eich cydweithwyr a’ch cyrff llywodraethu.

Cyflwyniad gan Chris Tweedale

Annwyl Gydweithiwr

Gobeithio ichi gael seibiant da dros yr haf a’ch bod yn dychwelyd i’r ysgol wedi dadflino ac yn barod i ddechrau ar flwyddyn academaidd newydd. 

Roeddwn yn falch o glywed y newyddion positif ynghylch canlyniadau Cyfnod Allweddol 1, 2 a 3 yn ogystal â TGAU, a Lefel A.  Roeddwn hefyd yn falch o nodi bod llwyddiant cynyddol mewn ystod ehangach o gymwysterau galwedigaethol, yn ogystal â chynnydd enfawr yn nifer y myfyrwyr sy’n llwyddo yn y Fagloriaeth Gymreig. 

Rwy’n gwybod bod penaethiaid yn cyfarfod ac yn llongyfarch eu staff ar ddechrau tymor newydd am eu hymdrechion yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.  Byddem yn ddiolchgar iawn pe byddech yn diolch ar fy rhan i’r athrawon a’r ymarferwyr am eu gwaith caled yn helpu plant a phobl ifanc Cymru i gyrraedd eu potensial yn yr ysgol.  

Fe wyddoch ein bod wedi rhoi’r gorau i anfon nodyn bob tymor, ond rwy’n falch o allu darparu dolen electronig at yr ail adroddiad blynyddol i ysgolion.  Rydym wedi gwrando’n ofalus ar yr adborth a gawsom y llynedd, ac wedi gwneud yr adroddiad yn haws i’w ddarllen.  Ble y mae’n bosibl, rydym wedi darparu dolen uniongyrchol i ddogfennau, ac wedi cynnwys enw swyddog APADGOS i chi allu cysylltu ag ef/hi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch.  

Mae gofyn statudol arnom i gynhyrchu adroddiad, ac rydym am iddo fod yn ddogfen gyfeirio ddefnyddiol.  Eto, byddem yn croesawu eich safbwyntiau ar sut y gallai’r adroddiad gael ei wella ymhellach, a’i wneud yn ddull ymarferol ac effeithiol o gyfathrebu i chi ac i bob ysgol yng Nghymru. Anfonwch eich sylwadau neu gwestiynau i dcells.internalcomms@wales.gsi.gov.uk

Chris Tweedale
Cyfarwyddwr y Grŵp Plant, Pobl Ifanc ac Effeithiolrwydd Ysgolion'
Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.