Skip to content

Canllaw ar gyllid i oedolion mewn addysg

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Diben y rhan hon o’r wefan yw eich helpu i ddod o hyd i’r cyllid sydd ei angen arnoch i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd addysg a dysgu sydd ar gael i chi.

Mae dysgu'n allweddol ar gyfer datblygiad personol ac economaidd. Nid oes yn rhaid iddo ddod i ben ar ôl i chi adael yr ysgol, gan fod dysgu'n rhywbeth gydol oes.

Gall cost astudio beri pryder i ddysgwyr weithiau; ond mae llawer o ffynonellau cyllid ar gael i'ch helpu. Yn aml, mae cymorth ychwanegol ar gael i ddysgwyr sydd ag anabledd neu i bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu - yn enwedig os ydych yn ddysgwr llawnamser.

Diben y rhan hon o'r wefan yw eich helpu i ddod o hyd i'r cyllid sydd ei angen arnoch i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd addysg a dysgu sydd ar gael i chi.

D.S: Canllaw cyffredinol yw hwn ac nid rhestr ddiffiniol o'r ffynonellau cyllid sydd ar gael mohono o gwbl. Dim ond ar yr adeg cyhoeddi y mae'n gywir. Am ragor o fanylion, cysylltwch â'r sefydliad perthnasol a nodir yn y cyhoeddiad hwn.