Skip to content

Sicrhau bod ieithoedd yn cyfrif

Dolenni perthnasol

Mae'r dogen hyn yn cynrychioli yr ail cyfnod am y rhaglen Y Wlad sy'n Dysgu a naeth dechrau yn 2001.
Mae’r Fframwaith Strategol Addysg Rhyngwladol wedi ei gynllunio i atgyfnerthu a datblygu’r dyheadau a’r cynlluniau uchod. Mae’n gwneud hynny trwy gynnig pedair thema strategol.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r camau i’w cymryd i wella’r ffordd y caiff ieithoedd tramor modern eu dysgu a’u haddysgu mewn ysgolion uwchradd ac yn y Llwybrau Dysgu 14–19 yng Nghymru.

Mae Sicrhau bod ieithoedd yn cyfrif yn nodi'r camau i'w cymryd i wella dysgu ac addysgu ieithoedd tramor modern. Mae profiad disgyblion o ddysgu iaith dramor yn ystod eu tair blynedd gyntaf yn yr ysgol uwchradd yn hollbwysig.

Bydd y camau a bennir yn hybu arloesi a gwelliant pellach i sicrhau bod disgyblion yn cael eu herio wrth ddysgu iaith yn ystod eu tair blynedd gyntaf yn yr ysgol uwchradd. Bydd yn annog pobl ifanc i barhau i ddysgu iaith dramor ar ôl 14 oed. Mae'r Cynllun hefyd yn nodi camau i roi rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc 14-19 oed astudio iaith dramor fel un elfen o'u Llwybr Dysgu.

Mae'r Cynllun felly ar gyfer ymarferwyr mewn lleoliadau dysgu 11-19, gan gynnwys ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol. Mae'n nodi sut y byddwn yn mynd ati, ar y cyd â CILT Cymru, y Ganolfan Genedlaethol ar Ieithoedd, i ddatblygu a hybu dysgu ieithoedd tramor modern.