Skip to content

Sut oedd yr Ysgol heddiw? Canllaw i rieni a gofalwyr ysgolion cynradd/uwchradd

Dolenni perthnasol

Diben y rhan hon o’r wefan yw dangos i chi sut mae Llywodraeth Cymru yn anelu at gyflawni system addysg o’r radd flaenaf.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r canllaw yn rhoi gwybodaeth i rieni / gofalwyr a fydd yn eu galluogi a’u hannog i gymryd rhan weithredol mewn addysg eu plant, ac mae wedi'i ddylunio i gyd-fynd â'r trafodaethau a gynhelir rhwng rhieni ac athrawon.

Cyfrifwyd y niferoedd ar sail yr ysgol unigol, gan ddefnyddio data CYBLD. Bydd pob ysgol yn derbyn canllawiau digonol yn y Gymraeg/Saesneg ar gyfer pob disgybl Cwricwlwm Cenedlaethol mewn grwpiau blynyddoedd 1 i 9 fel y bo’n briodol.

Yn ychwanegol at y llyfrynnau dwyieithog Cymraeg/.Saesneg, mae’r canllaw hefyd ar gael mewn nifer o ieithoedd cymunedol; yn cynnwys:

  • Arabeg
  • Bengaled
  • Contango
  • Guaiarateg
  • Pwyleg
  • Somalieg, ac
  • Wrdw.

Mae copïau mewn Braille ond ar gael ar gais. 

Os yr ydych yn teimlo fod gofyn sylweddol yn y dyfodol i’r canllawiau yma, mewn unrhyw iaith gymunedol arall, anfonwch e-bost at  parentsguides@cymru.gsi.gov.uk.