Skip to content

Rheoli perfformiad i benaethiaid, athrawon ac athrawon digyswllt

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r dogfennau canllaw hyn yn rhoi amlinelliad o’r arferion a’r gweithdrefnau gofynnol yn ôl Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011, a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2012.

Gwnaethpwyd hyn i gryfhau trefniadau rheoli perfformiad i benaethiaid, athrawon ac athrawon digyswllt.

Mae’r trefniadau diwygiedig sy’n cael eu disgrifio yma yn berthnasol i bob athro, phennaeth ac athrawon digyswllt, ac yn rhoi’r cyfle i;

  • drafod a chofnodi’n ffurfiol gyda’u gwerthuswr yr hyn y maent wedi’i gyflawni yn erbyn eu hamcanion
  • asesu eu harferion yn erbyn cyd-stun cyffredinol y safonau proffesiynol perthnasol, wedi’u llywio trwy edrych ar eu harferion a chefnogi hynny gyda data a thystiolaeth berthnasol o’u heffaith ar ganlyniadau dysgwyr
  • deall sut y mae eu hamcanion a’u datblygiad proffesiynol yn cyfrannu tuag at flaenoriaethau datblygu yr ysgol yn gyffredinol
  • gosod amcanion ar gyfer y flwyddyn ganlynol a thrafod y datblygiad a’r cymorth sydd ei angen i gynorthwyo ymhellach gydag arferion effeithiol yn ystod y flwyddyn ganlynol.    

Bwriad y deunyddiau canllaw ar reoli perfformiad sy’n cael eu rhestru isod yw helpu ysgolion i wella trwy gefnogi ymarferwyr fel unigolion ac arweinwyr timau ysgolion i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol. Maen nhw’n gosod fframwaith i athrawon ac arweinwyr gytuno ar flaenoriaethau ac amcanion a’u hadolygu yng nghyd-destun cynllunio i wella ysgolion. Maen nhw hefyd yn eu galluogi i ganolbwyntio eu sylw ar gefnogi ymarferwyr i gyrraedd safonau uchel o addysgu ac arweiniad sydd o fudd i ddysgwyr, ymarferwyr ac ysgolion.   

Daeth y rheoliadau newydd i rym ar 1 Ionawr 2012 gan ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol newid i’r trefniadau rheoli perfformiad diwygiedig erbyn 31 Rhagfyr 2012.  
Mae’r rheoliadau diwygiedig i’w gweld ar hafan swyddogol deddfwriaeth y DU.

Mae'r wybodaeth berthnasol ar gael ar y wefan Dysgu Cymru.