Skip to content

Sgiliau sy’n gweithio I Gymru

Dolenni perthnasol

Mae'r ddogfen hon yn nodi ein cynlluniau ar gyfer datblygu'r FfAE newydd a'n hamserlen arfaethedig ar gyfer ei weithredu.
Disgwylir i’r gwaith o weithredu’r polisi hwn arwain at fanteision sylweddol ar gyfer dysgwyr gan ganolbwyntio’n gadarn ar wella lefelau sgiliau ar gyfer pob person ifanc ac oedolyn.
Dyma gwybodaeth ar gyfer y polisi 'Trawsnewid – Y Siwrnai'.
Mae’r adroddiad yn amlinellu’n cynigion ar gyfer dyfodol dysgu yn y gwaith yng Nghymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Merch

Mae’r strategaeth yn disgrifio uchelgais ‘Cymru’n Un’ am Gymru addysgedig a medrus sydd â chyflogaeth lawn.

Mae Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru yn adeiladu ar yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2008. Mae hyn yn gynnwys gwaith blaenorol Y Wlad sy’n Dysgu: Gweledigaeth ar Waith.

Mae’r ddogfen yn defnyddio hefyd astudiaethau a chanlyniadau dau adolygiad annibynnol pwysig. Mae hyn yn gynnwys adolygiad Arglwydd Leitch o sgiliau yn y DU ac adolygiad Syr Adrian Webb o genhadaeth a phwrpas addysg bellach yng Nghymru.

Mae saith neges sylfaenol Adolygiad Webb wedi’u derbyn. Mae Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru a Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2008 yn adlewyrchu’r negeseuon hynny.

Mae’r strategaeth a’r cynllun gweithredu yn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau canlynol:

  • Gwella lefelau llythrennedd a rhifedd sylfaenol y gweithlu;
  • Sicrhau bod gan bawb y sgiliau sy’n angenrheidiol i weithio a pharhau’n gyflogadwy o fewn y farchnad lafur;
  • Cynyddu’r galw am sgiliau canolraddol ac uwch, a’r cyflenwad ohonynt;
  • Mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau a sgiliau sy’n brin mewn sectorau allweddol a chefnogi datblygiad yr economi trwy fuddsoddi mewn sgiliau 19+;
  • Darparu dysgu sy’n effeithiol ac effeithlon.