Skip to content

Cefnogi eich Swyddog Arholiadau yng nghyfnod arholiadau'r haf

Mae cyfres arholiadau'r haf wedi dechrau a dyma un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn i swyddogion arholiadau. Mae swyddogion arholiadau yn hanfodol o ran sicrhau bod yr arholiadau'n rhedeg yn esmwyth . Mae hynny'n sicrhau bod y ganolfan a ymgeiswyr yn cydymffurfio â rheoliadau a bod unrhyw broblemau munud olaf yn cael eu datrys yn gyflym ac yn effeithlon.

Mae'n bwysig bod Prifathrawon a Phenaethiaid yn sicrhau y caiff eu swyddogion arholiadau ddigon o amser i wneud eu gwaith - yn enwedig ar ddechrau'r diwrnod. Rydym yn ymwybodol bod y cyfrifoldeb ychwanegol o drefnu cyflenwad ar gyfer athrawon sy'n absennol yn ddyletswydd ar swyddogion arholiadau mewn rhai canolfannau. Mae

APADGOS yn gofyn i ganolfannau ystyried, er budd i'r ymgeiswyr, a yw'n bosibl i aelod arall o'r staff ymgymryd â'r dasg hon, nad yw'n ymwneud ag arholiadau, yn ystod cyfnod yr arholiadau. Byddai hynny'n rhyddhau'r swyddogion arholiadau a'u galluogi i sicrhau bod yr arholiadau'n dechrau mor effeithlon a phosibl a bod unrhyw anawsterau yn cael eu datrys yn gyflym ac yn effeithiol.