Skip to content

Cefnogi llythrennedd triphlyg: Dysgu ieithoedd yng Nghyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3

Dolenni perthnasol

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r camau i’w cymryd i wella’r ffordd y caiff ieithoedd tramor modern eu dysgu a’u haddysgu mewn ysgolion uwchradd ac yn y Llwybrau Dysgu 14–19 yng Nghymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cafodd y canllawiau hyn eu llunio i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau llythrennedd ac iaith drwy greu cysylltiadau ar draws Cymraeg, Cymraeg ail iaith, Saesneg ac ieithoedd tramor modern.
Mae’r canllawiau yn cefnogi athrawon iaith sy’n gweithio gyda’i gilydd, ar draws ieithoedd, er mwyn iddyn nhw allu datblygu ar brofiadau’r dysgwyr o ieithoedd eraill a’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu eisoes, a’u helpu i wneud cynnydd ym mha ieithoedd bynnag maen nhw’n eu hastudio. Maen nhw hefyd yn hwyluso gwaith cydlynwyr llythrennedd, athrawon cynradd ac athrawon sy’n addysgu Cymraeg, Cymraeg ail Iaith, Saesneg ac ieithoedd tramor modern.

Mae’r canllawiau yn dangos sut mae modd creu cysylltiadau er mwyn gwella lefelau llythrennedd ym mhob iaith. Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd amrywiol i ddatblygu sgiliau iaith a llythrennedd yn Gymraeg, Cymraeg ail iaith, Saesneg ac ieithoedd tramor modern.