Skip to content

Meddwl yn Gadarnhaol: Iechyd a Lles Emosiynol Mewn Ysgolion a Lleoliadau Blynyddoedd cynnar

Dolenni perthnasol

Dyma'r adran lle gellir gweld ein polisïau sy'n hybu ysgolion iach a hapus.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Nod y ddogfen arfer da hon yw cynorthwyo pob ysgol a lleoliad Blynyddoedd Cynnar i hybu iechyd a lles emosiynol.

Mae lles wrth wraidd y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion ac yn elfen graidd hanfodol o waith lleoliadau addysg. Fe’i hadlewyrchir hefyd yn y pwyslais cynyddol a roddir ar les yn y fframwaith arolygu cyffredin newydd, a gyflwynwyd gan Estyn yn 2010.  

Mae’r ddogfen hon yn cynnig:

  • Trosolwg cryno o'r wybodaeth a'r materion allweddol i ysgolion a lleoliadau addysg o ran hybu iechyd a lles emosiynol plant a phobl ifanc, gan gynnwys enghreifftiau o arfer cyfredol yng Nghymru.
  • Cynigion i gynorthwyo ysgolion ac awdurdodau lleol wrth iddynt fynd ati i hybu iechyd a lles emosiynol, a nodi plant a phobl ifanc sy'n cael problemau iechyd meddwl ac ymyrryd yn gynnar.
  • Cyfeirio at adnoddau a ffynonellau cymorth

Rhoddir astudiaethau achos drwy’r ddogfen gyfan i amlygu enghreifftiau o arfer da yng Nghymru.