Skip to content

Effaith y Trefniadau Rheoli Newydd ar y Gwasanaethau Gyrfaoedd yng Nghymru

Yn hydref 1997, fe gomisiynwyd SCYA gan y Swyddfa Gymreig i asesu effaith y trefniadau newydd ar draws Cymru, ac i ymgymryd â gwerthusiadau manwl yn y ddwy ardal oedd yn destun i’r astudiaeth man cychwyn. Bu llawer o newidiadau yng ngwasanaethau addysg a hyfforddiant Cymru ers yr adroddiadau man cychwyn – ac ymysg y pwysicaf o’r rhain y mae cyflwyno’r cwmnïau gwasanaeth gyrfaoedd newydd, ad-drefnu llywodraeth leol ac adolygu ffiniau’r CHMau. Mae Gwynedd bellach wedi ei rhannu rhwng awdurdodau lleol Môn, Gwynedd, Conwy a rhan o Sir Ddinbych. Enw’r cwmni gwasanaeth gyrfaoedd yn yr ardal hon yw Y Cwmni Gyrfa – The Careers Company. Mae ardal De Morgannwg wedi ei rhannu bellach rhwng Caerdydd a Bro Morgannwg ac fe’i gwasanaethir gan CareerPaths (Cardiff and the Vale).

Llwytho: Effaith y Trefniadau Rheoli Newydd ar y Gwasanaethau Gyrfaoedd yng Nghymru [.pdf 137KB]