Skip to content

Gwerthusiad Mewnol/Allanol PHIP a LPSH

Ym mis Gorffennaf 2003, cynhaliodd Adran Addysgu ac Arweinyddiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru werthusiad mewnol o`r Cyfeiriadur Hyfforddi a Datblygu Cenedlaethol sy`n rhan annatod o`r Rhaglen Sefydlu Broffesiynol i Benaethiaid Newydd (PHIP) yng Nghymru. Mae`r Rhaglen hon yn rhaglen 2 flynedd sy`n ategu datblygiad proffesiynol penaethiaid sydd newydd eu penodi. Mae`r Cyfeiriadur yn amlinellu cyfleoedd hyfforddi a datblygu i benaethiaid sy`n benaethiaid am y tro cyntaf yng Nghymru. Ei fwriad cyffredinol yw galluogi penaethiaid newydd i chwilio am amrywiaeth eang o gyfleoedd datblygiad proffesiynol pwrpasol o ansawdd uchel, ac i fanteisio ar y cyfleoedd hynny. Prif nod yr ymarfer gwerthuso hwn oedd asesu a fu`r Cyfeiriadur yn elfen lwyddiannus o`r Rhaglen Sefydlu Broffesiynol i Benaethiaid Newydd. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda sampl o benaethiaid newydd er mwyn asesu lefel yr ymwybyddiaeth a`r diddordeb yn y cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael drwy`r adnodd hwn. Mae`r adroddiad gwerthuso atodedig yn darparu amlinelliad o`r dystiolaeth a ddaeth i`r amlwg o`r ymarfer gwerthuso interim hwn ac yn atgyfnerthu canfyddiadau`r gwerthusiad allanol a gynhaliwyd gan Tribal/PPI.

Llwytho: Adroddiad [.pdf 400KB]

Llwytho: Cyflwyniad [.pdf 214KB]