Skip to content

Adroddiad Grŵp Adolygu Annibynnol Coleg Harlech (Adroddiad Hancock)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r adroddiad hwn yn pennu canlyniadau ac argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol a fu’n ystyried ariannu Coleg Harlech, darpariaeth breswyl Gogledd Cymru Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, yn y dyfodol. Comisiynwyd y gwaith hwn gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (PADGOS) ym mis Hydref 2009.

Mae colegau preswyl hirdymor yng Nghymru a Lloegr yn rhoi cyfle i’r oedolion hynny nad oeddent wedi cael cyfle i astudio ar yr adeg ‘arferol’ gael addysg lawnamser islaw lefel prifysgol. Daw’r myfyrwyr o bob cefndir ac nid oes angen cymwysterau ffurfiol er mwyn cael mynediad.  

Sefydlwyd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Coleg Harlech  ar 1 Awst 2001. Y mae wedi parhau â’r traddodiad hirdymor o alluogi oedolion i ddatblygu’u gallu i ddysgu a gwireddu eu llwyr botensial, gan gynnwys mewn hyfforddiant ac addysg alwedigaethol. Mae’n cynnwys darparu cyfleoedd i oedolion sydd o dan anfantais yn gymdeithasol ac yn addysgol sy’n preswylio yn Harlech ac mewn cymunedau a gweithfannau ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru.

Yn ddiweddar mae’r gymdeithas wedi gorfod adolygu’r trefniadau preswyl o ganlyniad i gyflwr y bloc llety.

O ganlyniad i’r newid yn y blaenoriaethau a galwadau sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, ystyriwyd ei bod hi’n amser adolygu’r buddsoddiad cyfalaf, y trefniadau  presennol ar gyfer y bwrsari a dyfodol hirdymor y ddarpariaeth breswyl yng Ngholeg Harlech.

Mae’r adroddiad hwn yn pennu canlyniadau ac argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol a fu’n adolygu’r materion hyn.

Atodi’r Datganiad Ysgrifenedig gan y  Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymateb i’r adroddiad.