Skip to content

Adroddiadau ar berfformiad Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Maer’r adroddiadau hyn yn darparu manylion am berfformiad CBAC, sef yr unig gorff dyfarnu sydd wedi’i leoli yng Nghymru sy’n cynnig Cymwysterau Cyffredinol (TGAU, Safon Uwch a Prif Ddysgu).

Mae'r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS), sydd wedi cynnwys rheoleiddio cymwysterau o fewn ei swyddogaeth ers Ebrill 2006, wedi ymrwymo i reoleiddio cyrff dyfarnu yn effeithiol er mwyn sicrhau tegwch i ddysgwyr.

Mae hyn yn golygu sicrhau bod cyrff dyfarnu’n darparu gwasanaeth o safon uchel fel y gall dysgwyr fod yn hyderus bod canlyniadau arholiadau yn gywir ac yn ddibynadwy.

Mae’r rheoleiddwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi sefydlu disgwyliadau perfformio y mae’n rhaid i gyrff dyfarnu eu cyrraedd yn ogystal â chyhoeddi cod ymarfer y mae’n rhaid i gyrff dyfarnu ei ddilyn. Mae’r rhain yn sicrhau bod dysgwyr a chanolfannau’n cael y gwasanaeth gorau i gwsmeriaid a bod safonau arholiadau’n gyson dros gyfnod o amser.

Os nad yw corff dyfarnu’n cyrraedd y gofynion hyn, mae’r rheoleiddwyr yn cymryd camau pendant i wella perfformiad y corff dyfarnu. Mae’r rheoleiddwyr yn adolygu’r disgwyliadau perfformio a’r cod ymarfer yn gyson er mwyn parhau i wella perfformiad y cyrff dyfarnu.