Skip to content

Adolygiad o Safonau haf 2009 ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth a TGAU Gwyddoniaeth Ychwanegol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys darganfyddiadau adolygiad ansoddol gan Adran Plant, Addysg, Dysgu gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) ac Ofqual o safonau arholiadau haf 2009 ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth a TGAU Gwyddoniaeth Ychwanegol.

Adolygwyd deunyddiau asesu ac ymatebion ymgeiswyr ar gyfer yr arholiadau oedd ar gael yng Nghymru a Lloegr gan bedwar corff dyfarnu: Assessment and Qualifications Alliance (AQA), Edexcel, Oxford Cambridge and RSA Examinations (OCR) a CBAC.

Ar y cyfan, nid oedd gwaith ymgeiswyr ar gyfer haf 2009 yn cwrdd â’r safon disgwyliedig – er roedd amrywiaeth mewn safonau rhwng cyrff dyfarnu a rhwng asesiadau.  Yn aml roedd hyn oherwydd dyluniad papurau cwestiwn nad oeddent ymhob achos yn rhoi’r cyfle i ymgeiswyr o bob gallu i ddangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth a’u sgiliau.

Dylid ystyried darganfyddiadau’r adroddiad o fewn cyd-destun yr amserlen ar gyfer datblygu manylebau newydd pynciau TGAU Gwyddoniaeth, a fydd yn cael eu cyflwyno gan gyrff dyfarnu ar gyfer eu hachredu ym mis Ebrill 2010.  Bydd y rheoleiddwyr cymwysterau yn disgwyl i’r cyrff dyfarnu gymryd i ystyriaeth argymhellion yr adroddiad wrth iddynt ddatblygu eu manylebau a deunyddiau asesu newydd.