Skip to content

Y ddarpariaeth ar gyfer plant sydd ag anghenion lleferydd ac iaith yng Nghymru a Lloegr

Ariannwyd yr astudiaeth hon ar y cyd gan yr Adran Addysg a Chyflogaeth, yr Adran Iechyd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yr oedd yn deillio o gylch gwaith y ddau Weithgor Therapi Lleferydd ac Iaith yng Nghymru a Lloegr. Y prif nodau oedd cyflwyno darlun cyffredinol o natur a maint y gwasanaeth therapi lleferydd ac iaith yng Nghymru a Lloegr ynghyd â nodi'r ffactorau sy'n hyrwyddo darpariaeth effeithiol o wasanaethau addysg ac iechyd yn y maes hwn. Yr oedd yr astudiaeth yn cynnwys arolwg o Adrannau Therapi Lleferydd ac Iaith yr Ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Addysg Lleol, 15 astudiaeth achos a 5 gweithdy rhanbarthol gyda rhanddeiliaid allweddol.

Yr oedd tair ar ddeg o themâu allweddol yn deillio o'r astudiaeth, sef:

  • Ariannu
  • Yr angen i gael setiau data cyffredin
  • Y broses adnabod
  • Sicrhau bod gan yr AALlau a'r Ymddiriedolaethau Iechyd yr un ffiniau daearyddol
  • Cydweithio rhwng yr AALlau a'r Ymddiriedolaethau Iechyd
  • Modelau o'r ddarpariaeth ar gyfer cefnogi plant sydd ag anghenion lleferydd ac iaith
  • Maint a natur newidiol y llwyth achosion o blant sydd ag anghenion lleferydd ac iaith
  • Systemau blaenoriaethu
  • Recriwtio a chadw therapyddion lleferydd ac iaith
  • Addysg, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus
  • Disgwyliadau cyd-weithwyr a rhieni
  • Rôl y rhieni a gofalwyr
  • Materion sy'n ymwneud yn benodol â'r Gymraeg a'r Saesneg fel iaith ychwanegol

Gwelwch: Y ddarpariaeth ar gyfer plant sydd ag anghenion lleferydd ac iaith yng Nghymru a Lloegr: Hwyluso cyfathrebu rhwng y gwasanaethau addysg ac iechyd (Adroddiad Ymchwil yr Adran Addysg a Chyflogaeth 239)