Heddiw (Dydd Llun 31 Ionawr) croesawodd y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, Jane Davidson gyhoeddi adroddiad blynyddol y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant ar gyfer 2003-04.
Rhoddodd Ms Davidson y sylwadau hyn ar yr adroddiad:
"Rwy`n croesawu`r adroddiad hwn yn fawr iawn ac, yn arbennig, gasgliad y Prif Arolygydd fod safonau wedi codi dros y pum mlynedd ddiwethaf gyda rhai o`r gwelliannau mwyaf yn digwydd eleni.
"Rydym wedi gosod agenda heriol i ni ein hunain yng Nghymru. Mae adroddiad y Prif Arolygydd yn pwysleisio bod llawer o waith eto i`w wneud ac, yn arbennig, er mwyn gwireddu`r gwelliannau a fydd yn llifo o`n cynlluniau ar gyfer y Cyfnod Sylfaen newydd, ailwampio cyfleoedd a Llwybrau Dysgu i ddisgyblion 14-19 oed a chamau i orfodi lefelau sgiliau i godi. Ond mae`r neges gyffredinol yn glir - mae`r rhaglen waith a osodwyd yn Y Wlad sy`n Dysgu yn mynd rhagddi’n dda gyda gwelliannau o flwyddyn i flwyddyn mewn safonau ac yn ansawdd y ddarpariaeth.
"Wrth galon ein strategaeth mae ymrwymiad i ddarparu`r cychwyn gorau un mewn bywyd i bob plentyn. Mae`n rhoi boddhad arbennig, felly, i weld y gwelliannau sy`n cael eu sicrhau mewn ysgolion ac mewn dysgu cyn dechrau’r ysgol ar draws Cymru. Mae`r adroddiad yn pwysleisio bod:
- y safonau y mae plant o dan 5 oed yn eu cyrraedd yn gwella o flwyddyn i flwyddyn;
- disgyblion mewn ysgolion arbennig yn gwneud gwell cynnydd o hyd. Maent yn cyrraedd safonau uwch ym mhob pwnc ac ym mhob cyfnod allweddol;
- mewn ysgolion cynradd bod y safonau y mae disgyblion yn eu cyrraedd wedi gwella`n fawr iawn yn y 5 mlynedd ddiwethaf; a
- bod safonau yng nghyfnod cyntaf addysg uwchradd (Cyfnod Allweddol 3) yn uwch na`r llynedd ym mron pob pwnc.
"Fodd bynnag, araf fu`r gwelliannau yn yr hyn a gyflawnir mewn arholiadau gan ddisgyblion 16 oed ac mae arwyddion bod lefel y canlyniadau wedi sefydlogi. Dyna`r union reswm yr ydym yn cymryd camau i drawsnewid cyfleoedd i ddisgyblion 14-19 oed trwy ein rhaglen Llwybrau Dysgu. Datblygwyd y rhaglen Llwybrau Dysgu mewn partneriaeth â rhwydweithiau lleol a bu`n cael ei bwydo ym mhob cam gan farn pobl ifanc; bydd yn ymestyn y dewis a`r hyblygrwydd sydd ar gael ac yn arfogi pobl ifanc â`r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd a gwaith. Yn arbennig, bydd Llwybrau Dysgu yn ceisio hyrwyddo cynhwysiant a lleihau`r niferoedd sy`n rhoi`r gorau iddi trwy ddarparu amrywiaeth eang ac arloesol o gyfleoedd dysgu i bobl ifanc. Trefnir bod £43m ar gael dros y tair blynedd nesaf i fwrw ymlaen â`r rhaglen uchelgeisiol ac arloesol hon.
"Mae`n dda gweld hefyd asesiad Estyn bod ansawdd gwaith ieuenctid, at ei gilydd, yn dda. Mae`n amlwg bod y Partneriaethau Pobl Ifanc yn symud ymlaen yn dda â chydlynu gwaith gwahanol ddarparwyr gwasanaethau ym mhob ardal. O ganlyniad mae gwell cyfleoedd i bobl ifanc ennill y sgiliau cymdeithasol ac ymarferol y mae eu hangen i ymdopi â bywyd fel oedolion ac i rannu`r pethau y maent wedi eu dysgu ag eraill.
"Rwyf o`r un farn yn union â`r Prif Arolygydd pan ddywed fod yn rhaid i`r rhai sydd yn y Gyfundrefn Cyfiawnder Ieuenctid allu derbyn addysg a hyfforddiant o safon uchel yn ddirwystr. Mae darpariaeth o`r fath yn bwysig iawn o ran atal troseddu ac aildroseddu. Gan gydweithio â phartneriaid, gan gynnwys y Swyddfa Gartref a`r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, rydym o`r herwydd wedi rhoi gwaith ar y gweill i wella cyfleoedd. Bydd amryfal ddulliau arloesol yn cael eu rhoi ar brawf gan gynnwys peilota cymorth personol a roddir gan weithwyr ieuenctid i bobl ifanc sydd dan ddedfryd yn y ddalfa. Bydd y prosiect hwn yn golygu gwaith â throseddwyr ifanc, eu teuluoedd ac asiantaethau allweddol cyn eu rhyddhau, er mwyn sicrhau trawsnewid llyfn pan ddychwelant i`r gymuned gyda gwell cyfle i dderbyn addysg a hyfforddiant.
"Carreg sylfaen y rhaglen Llwybrau Dysgu yw partneriaethau effeithiol rhwng ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant. Mae`n galonogol gweld, felly, bod y safonau a gyrhaeddir gan ddysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach wedi gwella eleni gyda chyrhaeddiad myfyrwyr yn cael ei farnu`n dda neu`n dda iawn ym mron i ddeuparth y meysydd rhaglen a arolygwyd. Yn yr un modd, mae addysgu mewn sefydliadau addysg bellach wedi gwella yn y pum mlynedd ddiwethaf a bellach mae llawer iawn mwy o addysgu da. Y mae`r adroddiad, fodd bynnag, yn nodi bod diffygion o hyd mewn addysgu mewn rhai meysydd. At hynny, er bod ansawdd yr hyfforddiant seiliedig ar waith wedi gwella yn y pum mlynedd ddiwethaf, dim ond tua thraean yr hyfforddiant sy`n dda neu`n dda iawn.
"Ni ellir caniatáu cyfaddawdu ynghylch safonau ac mae ELWa, trwy ei Adolygiad Dysgu yn y Gwaith, eisoes wedi ystyried beth y mae angen ei wneud i fynd i`r afael ag unrhyw ddiffygion. Ar y cyd ag Estyn a`r Cynulliad, mae ELWa yn gweithredu i sicrhau bod yna ddulliau systematig, ar bob lefel, o ymdrin â rheoli ansawdd gan gynnwys datblygu fframwaith ansawdd newydd erbyn Mawrth 2005. Mae`r Adolygiad, sydd wedi ei dderbyn gan Gyngor Cenedlaethol ELWa, yn argymell y dylai ELWa, dros gyfnod y cytunir arno, dynnu cyllid ymaith oddi wrth ddarparwyr nad ydynt yn ennill o leiaf radd 3 mewn arolygiad gan Estyn ym mhob agwedd ar gyflwyno, ac y dylai gydweithio`n agos â darparwyr i wella ansawdd a chodi safonau, er enghraifft trwy gyflwyno pecynnau o gymorth a monitro a dargedir ar gyfer darparwyr sy`n tanberfformio.
"Un elfen yn unig yw hon o`n Cynllun Gweithredu Sgiliau a Chyflogaeth i Gymru 2005 a gyhoeddwyd ym mis Ionawr. Bydd y cynllun yn sicrhau bod ein polisïau ar draws yr agendâu sgiliau, cyflogaeth ac economi yn wirioneddol gysylltiedig, a`n bod ar y naill law yn cynyddu`r galw am waith cyflogedig uchel-sgiliau ac ar yr un pryd yn cynyddu`r nifer o bobl uchel-sgiliau sydd â chymwysterau da yng Nghymru.
"Mae`n deyrnged i ymrwymiad a gwaith caled ymarferwyr a rheolwyr ar draws Cymru ein bod, unwaith eto, wedi gweld gwelliannau yn ansawdd yr addysgu, gydag enillion arwyddocaol mewn ysgolion a cholegau. Ynghyd â gwelliannau mewn safonau ac ansawdd darpariaeth o flwyddyn i flwyddyn y mae, felly, lawer i`w ddathlu yn yr adroddiad hwn.
"Mae`n amlwg bod ein hagenda "Gwnaed yng Nghymru" yn gwneud gwir wahaniaeth i`r cyfleoedd a ddarperir i ddysgwyr ar bob lefel. Er bod llawer iawn o hyd i`w wneud rydym yn bendant ar y llwybr cywir tuag at wireddu ein huchelgais, sef gwneud Cymru yn wlad sy`n dysgu.
Gwelwch: www.estyn.gov.uk