Skip to content

Adolygiadau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru

Dolenni perthnasol

Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes



Mae adolygiadau polisi yn galluogi Llywodraeth Cymru i graffu ar bolisïau presennol. Caiff y rhain eu cynnal gan arbenigwyr annibynnol fel rheol.

Mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu adolygiadau mewnol ac allanol er mwyn cyfrannu at benderfyniadau ynghylch llunio polisïau a'u hatgyfnerthu. Mae'r adolygiadau yn amrywio o ran maint, cymhlethdod ac amserlenni. Mae ymarferwyr profiadol ac arbenigwyr o fewn y maes pwnc yn gweithio ar yr adolygiadau hyn.  

Yn aml caiff adolygiadau eu sefydlu fel 'Grwpiau Gorchwyl a Gorffen'. Caiff y grwpiau hyn eu sefydlu drwy geisio enwebiadau oddi wrth bartïon â diddordeb yn y maes a'r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru. Paneli cynghori ad-hoc yw grwpiau gorchwyl a gorffen a gaiff eu sefydlu ar gyfer cyflawni tasg benodol, llunio adroddiad ac yna maent yn dirwyn i ben. Gwaith tymor byr y maent yn ymdrin ag ef gan amlaf, ac mae'n dueddol o fod yn waith penodol iawn.

Adolygiad o’r consortia addysg

16/04/13
Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau eisoes wedi cytuno i gynnal adolygiad o’r trefniadau gweithio rhanbarthol a pha mor barod yw’r consortia addysg i rannu gwasanaethau gwella ysgolion.
 
Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu: dysgu yn y Gymru ddigidol

Grwp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol ar Ddulliau Addysgu Digidol yn yr Ystafell Ddosbarth

29/03/12
Ym mis Medi 2011, comisiynodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC, adolygiad o ddulliau addysgu digidol yn yr ystafell ddosbarth, gan greu grŵp gorchwyl a gorffen allanol i'w arwain.
 

Adolygiad o’r Gost o Weinyddu’r System Addysg yng Nghymru

29/06/11
Bydd yr Adolygiad Addysg hwn yn edrych ar y modd y caiff cyllid ar gyfer addysg yng Nghymru ei ddyrannu i ysgolion, colegau a phrifysgolion. Cynhelir yr adolygiad mewn dau gam. Cafodd yr adroddiad ar gam cyntaf yr adolygiad ei gyflwyno ym mis Mai 2010. Mae’r adroddiad yn pennu gwahanol gyfleoedd al ...
 

Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Adolygu Strwythur Gwasanaethau Addysg

28/06/11
Mae’r dudalen hon yn cynnwys manylion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Adolygu Strwythur Gwasanaethau Addysg. Aeth y grŵp ati i ystyried a yw’r strwythurau addysg yn hybu ac yn cefnogi darparu gwasanaethau gwerth gorau i ddinasyddion Cymru, a bydd yn edrych ar y system gyfan dros y tymor hir. Roe ...
 

Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Llywodraethu ar gyfer Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru

13/05/11
Sefydlodd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes banel adolygu arbenigol i ymchwilio i wahanol fodelau llywodraethu ar gyfer Sefydliadau Addysg Bellach yng nghyd-destun yr amgylchedd economaidd-gymdeithasol presennol.
 

Yr Adolygiad o Lywodraethu Addysg Uwch yng Nghymru

22/03/11
Cyflwynodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a oedd yn adolygu Llywodraethu Addysg Uwch yng Nghymru ei adroddiad i’r Gweinidiog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ar 17 Chwefror 2011.
 

Cyfle i Gyfrannu: Yr Adolygiad o Lywodraethu Addysg Uwch yng Nghymru

15/10/10
Mae’r gwaith hwn yn unol â’r ymrwymiad a wnaethpwyd yn y ddogfen Er Mwyn Ein Dyfodol a gynigiodd adolygiad o lywodraethu addysg uwch a fyddai’n adeiladu ar y cryfderau sy’n bodoli eisoes, gwerthuso’r diffygion presennol ac ystyried yr angen yn y dyfodol.
 

Adolygiad o’r Panel Cynghori ar Lwyth Gwaith Ysgolion

17/07/09
Sefydlwyd y Panel Cynghori ar Lwyth Gwaith Ysgolion gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel corff annibynnol yn yr hydref 2004, gyda chylch gwaith wedi’i anelu at leihau’r baich biwrocrataidd ar ysgolion.
 

Adolygiad o Addysg Uwch yng Nghymru - Cam 2

22/06/09
Cyflwynodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen oedd yn adolygu Cam 2 o Addysg Uwch yng Nghymru ei adroddiad i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar 27 Ebrill 2009.
 

Gyrfa Cymru:Adolygiad o Safbwynt Rhyngwladol

15/05/09
Comisiynwyd yr adroddiad hwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel rhan o adolygiad ehangach y mae’n ei gyflawni mewn perthynas â gwasanaethau gyrfa yng Nghymru.
 

Adolygiad o Addysg Uwch yng Nghymru Cam 1: Trefniadau Cyllid Myfyrwyr

01/12/08
Ar 25 Mehefin, cyhoeddodd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ei bod yn sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i Adolygu Addysg Uwch yng Nghymru. Hyd yn hyn, mae gwaith y Grŵp wedi canolbwyntio ar ran gyntaf y cylch gwaith, sef edrych ar drefniadau cyllid myfyrwyr. Ar 1af Hydref, cyf ...
 

Argoelion Da a Chyflawniad (Adolygiad Webb) gan gynnwys ymateb LLCC

01/12/07
Yr Adolygiad Annibynnol ar Genhadaeth a Phwrpas Addysg Bellach yng Nghymru yng Nghyd-destun Y Wlad Sy’n Dysgu: Gweledigaeth Ar Waith.
 

Adroddiad Graham 2006

24/06/06
Cyhoeddwyd Adroddiad Terfynol yr Adolygiad Annibynnol o Astudiaethau Addysg Uwch Rhan Amser yng Nghymru ar Fehenin 15eg 2006. Sefydlwyd y Grwp Adolygu yng Ngorffennaf 2005 â chytundeb pob grwp a chadeiriwyd gan Dr Heather Graham.
 

Adolygiad Rees 2005

15/05/05
Adroddiad Terfynol Astudiaeth Annibynnol i Ddatganoli'r System Cymorth i Fyfyrwyr a'r Drefn Ffioedd Dysgu yng Nghymru
 

Buddsoddi mewn Dysgwyr: Cydlyniant, eglurder a thegwch gyda chymorth i fyfyrwyr yng Nghymru

15/06/01
Adroddiad i'r Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (Adroddiad Rees)