Skip to content

Cyfle i Gyfrannu: Yr Adolygiad o Lywodraethu Addysg Uwch yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r gwaith hwn yn unol â’r ymrwymiad a wnaethpwyd yn y ddogfen Er Mwyn Ein Dyfodol a gynigiodd adolygiad o lywodraethu addysg uwch a fyddai’n adeiladu ar y cryfderau sy’n bodoli eisoes, gwerthuso’r diffygion presennol ac ystyried yr angen yn y dyfodol.

O ganlyniad, rhoddwyd i’r Adolygiad y dasg o ystyried a yw’r ffurfiau presennol o lywodraethu cenedlaethol a sefydliadol yn cyd-fynd ag anghenion, disgwyliadau a gofynion y dyfodol ym maes Addysg Uwch yng Nghymru a chanfod y newidiadau y mae eu hangen.

 Er mwyn gweithredu ei gylch gwaith, bydd angen i’r Adolygiad ystyried yn drylwyr, yn gadarn ac yn ddadansoddol:

  • diben;
  • egwyddorion sylfaenol; a
  • fframwaith gweithredol a deddfwriaethol y systemau llywodraethu presennol ym maes addysg uwch.

O ganlyniad, wrth werthuso’r systemau presennol mae’n rhaid i’r adolygiad nodi argymhellion a fydd yn mynd â llywodraethu addysg uwch ymlaen i’r dyfodol a’i alluogi i ddygymod â’r heriau hyn. Wrth gyflawni’r dasg hon, bydd angen i’r Adolygiad ystyried nifer o faterion a chwestiynau:

  • effeithiolrwydd y modelau llywodraethu cenedlaethol presennol gan gynnwys ystyried y berthynas rhwng Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Cyllido Cymru a’r cyflenwi mewn sefydliadau;
  • gwerthuso llywodraethu y tu mewn i Brifysgol Cymru;
  • effeithiolrwydd gweithredol y llywodraethu presennol mewn sefydliadau; a
  • rôl llywodraethu sefydliadol wrth oruchwylio a chynorthwyo â chydweithredu, cynllunio rhanbarthol ac uno, a’i effaith ar y pethau hyn.

Beth ydym ni’n gofyn amdano gennych chi?

I gynorthwyo i ddarparu gwybodaeth ar gyfer y Panel a’i drafodaethau rydym yn arbennig o awyddus i fesur eich barn ar y materion sy’n ymwneud â llywodraethu addysg uwch yng Nghymru er mwyn, os bydd angen gwelliannau, iddo ddiwallu anghenion unigolion, y gymdeithas a’r economi yn y dyfodol yn well. Er mwyn cynorthwyo â’r gwaith hwn, byddem yn ddiolchgar pe gallech, yn eich ymateb, ystyried y materion canlynol:

  • Pa mor glir mae strategaethau addysg uwch Cymru wedi cael eu diffinio ar lefel genedlaethol a pha mor effeithiol maen nhw’n cael eu gweithredu gan Lywodraeth y Cynulliad, y Cyngor Cyllido Addysg Uwch, asiantaethau cenedlaethol eraill a darparwyr?
  • Pa mor dda mae llywodraethwyr y sefydliadau’n cael eu grymuso a’u cynorthwyo wrth gyflawni swyddogaethau megis goruchwylio’r cyfeiriad strategol, craffu ar ffordd y gwneir penderfyniadau gweithredol a sicrhau uniondeb?
  • Pa mor dda mae’r systemau presennol o recriwtio llywodraethwyr yn sicrhau bod rhanddeiliaid mewnol ac allanol perthnasol yn cael eu cynnwys ac yr ymgysylltir â nhw?
  • Pa rôl ddylai fod gan y llywodraethwyr wrth oruchwylio a chynorthwyo ag ymrwymiad y sefydliadau i gydweithredu a chynllunio rhanbarthol?
  • Pa drefniadau sydd ar hyn o bryd i lywodraethu cydweithredu, partneriaeth a chynllunio rhanbarthol – gan gynnwys trefniadau partneriaethol gyda darparwyr eraill addysg uwch megis colegau addysg bellach?
  • Allwch chi roi enghreifftiau o arferion da neu strwythurau llywodraethu y byddai’n werthfawr eu hystyried a’u rhannu?