Skip to content

Yr Adolygiad o Lywodraethu Addysg Uwch yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyflwynodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a oedd yn adolygu Llywodraethu Addysg Uwch yng Nghymru ei adroddiad i’r Gweinidiog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ar 17 Chwefror 2011.

Mae gwaith yr adolygiad yn unol â’r ymrwymiad a wnaethpwyd yn y ddogfen Er Mwyn Ein Dyfodol a gynigiodd adolygiad o lywodraethu addysg uwch a fyddai’n adeiladu ar y cryfderau sy’n bodoli eisoes, gwerthuso’r diffygion presennol ac ystyried yr angen yn y dyfodol.

Rhoddwyd i’r Adolygiad y dasg o ystyried a oedd y ffurfiau presennol o lywodraethu cenedlaethol a sefydliadol wedi cyd-fynd ag anghenion, disgwyliadau a gofynion y dyfodol ym maes Addysg Uwch yng Nghymru a chanfod y newidiadau y mae eu hangen.

Roedd yr Adolygiad hefyd yn ystyried rôl a swyddogaeth genedlaethol Prifysgol Cymru, a’i gyfraniad heddiw ac yn y dyfodol i weithredu Er Mwyn Ein Dyfodol.  

Ategwyd gwaith ymchwil y Gr wˆ p Gorchwyl a Gorffen gan ymchwil a gomisiynwyd oddi wrth Old Bell 3 Ltd a gynhyrchodd ddau adroddiad:

  1. Adolygiad o ddeunydd a roddodd ddadansoddiad cymharol o systemau eraill ar gyfer llywodraethu addysg uwch a oedd yn cynnwys gwledydd eraill Prydain gan dalu sylw’n benodol i’r berthynas rhwng llywodraethau a sefydliadau.
  2. Cyfweliadau ansoddol gydag Is-Gangellorion, Cadeiryddion y Bwrdd Llywodraethwyr/Cyngor a Chofrestryddion/Ysgrifenyddion y Bwrdd Llywodraethwyr/Cyngor mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Roedd y cyfweliadau hyn o gymorth i gael dealltwriaeth ddyfnach o’r trefniadau llywodraethu.