Skip to content

Argoelion Da a Chyflawniad (Adolygiad Webb) gan gynnwys ymateb LLCC

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Yr Adolygiad Annibynnol ar Genhadaeth a Phwrpas Addysg Bellach yng Nghymru yng Nghyd-destun Y Wlad Sy’n Dysgu: Gweledigaeth Ar Waith.

Yn Y Wlad Sy’n Dysgu:  Gweledigaeth Ar Waith fe ddywedwyd yn bendant bod angen cynnal adolygiad polisi trwyadl ar genhadaeth a phwrpas y sector addysg bellach yng Nghymru.  Roedd y Gweinidog Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (ADGOS) yn cytuno y dylai’r Adolygiad ddefnyddio dull ymdrin cyfannol, a gwerthuso Sefydliadau Addysg Bellach ynghyd â dadansoddi beth yw swyddogaethau ehangach y sector hefyd.  Roedd hyn yn cynnwys dadansoddi’r datblygiadau mewn addysg 14-19; ymatebolrwydd i anghenion sgiliau cyflogwyr a’r economi; addysg oedolion; ymwneud â darpariaeth addysg uwch; a’r anghenion sydd gan, a’r ymatebolrwydd i, ddysgwyr ôl-14 yng Nghymru. Fe ymgymerodd Syr Adrian Webb ag arwain yr adolygiad gyda chymorth Sheila Drury CBE a Gary Griffiths.

Cafodd yr adroddiad terfynol, a elwir hefyd yn “Adolygiad Webb” ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2007.

Adolygiad annibynnol a phellgyrhaeddol oedd Adolygiad Webb a lwyddodd i bennu 136 o Argymhellion oedd yn awgrymu newidiadau mewn sefydliadau ôl-14.

Argymhellion eraill a oedd yn gynigion ar gyfer newid:

  • dulliau o lywodraethu a chraffu i ddarparwyr;
  • Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau;
  • Llywodraeth a’r Cynuliad Cenedlaethol.

Yng ngwanwyn 2008, aethpwyd ati i ymgynghori ar yr adroddiad trwy gynnal gweithdai gan eu cysylltu gyda thrafodaeth ar Adroddiad Webb gydag ymgynghoriad ar y Strategaeth “Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru”. Mae'r ymgynhoriad yn amlinellu agenda gydlynus ar gyfer diwygio ym maes addysg a hyfforddiant ar bob lefel.  Yn y Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2008, nid yn unig mae ein hymateb ni i adolygiad yr Arglwydd Leitch, “Sgiliau yn y DU”, ond mae’n cynnwys prif ganlyniadau adroddiad “Addewid a Chyflawniad”, materion fel gweddnewid y strategaeth i fynd i’r afael ag ad-drefnu.

Mae’r adroddiad yn ceisio esbonio ymhellach ein safbwynt polisi ni o ran yr 136 argymhelliad.