Skip to content

Cymwysterau a'u rheoleiddio

Dolenni perthnasol

Ein gweledigaeth ni yw darparu fframwaith cwricwlwm ac asesu cydlynol ac integredig ar gyfer ysgolion, sy'n codi safonau cyrhaeddiad ac yn rhoi mwy o gyfle i bobl gymryd rhan mewn addysg.
Mae cyhoeddiadau yn rhan bwysig o waith yr Adran Addysg a Sgiliau.
Mae’r daflen hon yn ganllaw cyflym ar gyfer cyflogwyr, dysgwyr ac eraill sydd â diddordeb yn hyn o beth.

Ar y tudalennau hyn ceir gwybodaeth am y gwahanol fathau o gymwysterau sydd ar gael yng Nghymru a chymhwyster Bagloriaeth Cymru.

Maent yn cynnwys cymwysterau ar gyfer disgyblion ysgol, myfyrwyr addysg bellach, pobl a allai fod yn y gweithle, lleoliadau cymunedol, carchardai, lleoliadau preswyl neu yn rhywle arall.

Yn ogystal â chael gwybodaeth am y mathau o gymwysterau, ceir hefyd ar y tudalennau hyn wybodaeth ychwanegol am bethau megis:

  • cymwysterau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog
  • mynediad at gymwysterau
  • cymwysterau sydd wedi’u cymeradwyo gan ddysgwyr amrywiol
  • e-asesiad
  • sut y mae cymwysterau’n cymharu â'i gilydd a  sut y gellir eu defnyddio yng ngwahanol wledydd y DU
  • fframweithiau cymwysterau.

Ar y tudalennau Rheoleiddio Cymwysterau ceir gwybodaeth am ddull Llywodraeth Cymru o reoleiddio cymwysterau. Mae rheoleiddio'n cynnwys agweddau fel sicrhau bod gan y sefydliadau sy'n cynnig cymwysterau adnoddau addas i wneud hynny; bod y cymwysterau eu hunain yn addas i'r diben a bod safonau’n cael eu cynnal dros amser.

Mae Llywodraeth Cymru wedi newid y prosesau ar gyfer rheoleiddio sefydliadau dyfarnu a’u cymwysterau er mwyn adlewyrchu'r newidiadau a weithredwyd gan ein cyd-reoleiddwyr yn Lloegr (Ofqual) ac yng Ngogledd Iwerddon (CCEA).

Ceir mwy o wybodaeth am hyn yn yr adrannau perthnasol a welir ar y llaw chwith.