Skip to content

Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru

Dolenni perthnasol

Mae pob adran o LFfCChC ar gael i'w lawrlwytho yma.
Gwybodaeth gyffredinol ynghylch Cymwysterau Galwedigaethol.
Logo FfCChC
Mae Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) yn golygu bod modd cydnabod a chymharu cyflawniadau o bob math o addysg a hyfforddiant.

Mae'r fframwaith yn cydnabod cymwysterau sydd wedi'u cwblhau'n llawn ac yn rhannol a'r ystod eang o weithgareddau addysg a hyfforddiant sy'n digwydd y tu mewn a'r tu allan i'r trefniadau rheoleiddio a chyllido.

Mae'r weledigaeth ar gyfer Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru yn sail i bum prif nod:

  • galluogi pawb i ddatblygu a chynnal sgiliau hanfodol
  • annog pobl i fod yn ddysgwyr gydol oes
  • manteisio ar yr wybodaeth sydd gan fusnesau a sefydliadau addysg
  • annog busnesau a gweithwyr i feithrin sgiliau newydd
  • helpu pobl i ddatblygu sgiliau newydd yn eu cymunedau.

Cyflawnir hyn trwy:

  • helpu pawb i wireddu eu potensial
  • lleihau anghydraddoldeb
  • gwella lles economaidd a chymdeithasol.

Mae FfCChC yn cefnogi'r holl ddysgu cydnabyddedig, seiliedig ar gredydau o fewn:

  • Addysg Uwch
  • Cymwysterau Cyffredinol a Galwedigaethol wedi'u Rheoleiddio
  • Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd.

Mae FfCChC i bob dysgwr 14 oed a hŷn. Byddant yn gallu manteisio os ydynt yn dysgu yn y gweithle, y gymuned, yr ysgol, y coleg neu'r brifysgol.

Mae gan FfCChC dair egwyddor gyffredin:

  • Mynegi cyflawniad fel deilliannau dysgu
  • Y gofynion y mae'n rhaid i'r dysgwyr eu bodloni i sicrhau'r deilliannau dysgu (lefel)
  • Maint cyflawniadau dysgu (credyd).

Y Cytundeb Cyffredin FfCChC yw'r ddogfen sylfaen a ddefnyddir i gytuno ar derminoleg, y manylebau cynllunio, yr egwyddorion a'r systemau sy'n ofynnol i sicrhau bod unrhyw gredyd a bennir ac a ddyfernir yn bodloni prosesau sicrhau ansawdd trylwyr.

Y Fforwm Cytundeb Cyffredin yw prif bwyllgor traws-sector FfCChC. Gwaith y Fforwm yw cefnogi, arwain, cyfeirio a hwyluso mynediad i arbenigedd ehangach trwy rwydweithiau aelodau ac mae'n cyfrannu at ddatblygiad parhaus, gweithredu a llwyddiant FfCChC.

I gael rhagor o wybodaeth am FfCChC, y Fforwm Cytundeb Cyffredin a'r cynllun gweithredu, gallwch lawrlwytho'r llawlyfr (yn dolenni perthnasol).

Mae dolenni i gyrff cenedlaethol a chyrff eraill yn y DU (dolen allanol)