Skip to content

Gwybodaeth ar gyfer dysgwyr, rhieni a gofalwyr

Dolenni perthnasol

Mae credyd yn fodd i gydnabod pob math o ddysgu a gyflawnir boed y dysgu hwnnw yn yr ysgol, y gweithle neu'r gymuned.
Mae eich ULN yn aros gyda chi drwy gydol eich oes, fel eich Rhif Yswiriant Gwladol, heblaw ei fod yn berthnasol i’ch addysg.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) yn cydnabod pob math o ddysgu - pob pwnc ar bob lefel.

Mae'n cynnwys dysgu sy'n digwydd yn yr ysgol, y coleg, y brifysgol, dysgu seiliedig ar waith, gweithgareddau ieuenctid, chwaraeon a diwylliannol yn y gymuned.

Mae'r cymwysterau newydd sydd ar gael wedi gweddnewid y ffordd y caiff pobl ifanc eu haddysgu. Mae mwy o ddewis a hyblygrwydd yn golygu y bydd pobl ifanc yn cael cydnabyddiaeth mewn amryw o ffyrdd a bydd hynny'n cael ei werthfawrogi gan brifysgolion, colegau a chyflogwyr.

Mae Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru yn cynnwys holl gymwysterau galwedigaethol y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau - efallai y byddwch yn adnabod rhai ohonynt fel dyfarniadau BTEC, NVQs neu City and Guilds etc.

Mae'r daflen "Mae dysgu yn newid", yn rhoi rhagor o fanylion i chi.

Mae FfCChC yn golygu bod modd cymharu pob math o gymwysterau a chyflawniadau dysgu ar bob lefel. Mae'r diagram isod yn dangos yr ystod honno gyda rhai enghreifftiau.

Mae Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru yn cynnig manteision i ddysgwyr drwy:

  • gydnabod a gwerthfawrogi eich cyflawniadau
  • hybu eich cynnydd mewn addysg a chyflogaeth ar draws y DU ac Ewrop
  • gwneud hi'n haws i chi drosglwyddo’ch gwybodaeth a'ch sgiliau rhwng gyrfaoedd a darparwyr addysg a hyfforddiant
  • eich galluogi i gasglu credydau a chymwysterau er mwyn ateb ystod o anghenion sy'n ymwneud â'ch gyrfa a'ch datblygiad personol.

O fis Medi 2011 bydd myfyrwyr ysgol uwchradd yng Nghymru o Flwyddyn 9 yn cael Rhif Unigryw'r Dysgwr (ULN), sef rhif am oes - yn debyg i rif Yswiriant Gwladol heblaw ei fod yn cyfeirio at addysg.  Fe'i defnyddir yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae'r ULN yn bwysig oherwydd mae'n cynnig modd storio'ch holl gyflawniadau dysgu mewn un man - yn eich Cofnod Dysgu Personol (CDP). Bydd eich Cofnod Dysgu Personol ar gael o 2012. Byddwch yn gallu ei gyrchu drwy fewngofnodi ar wefan Gyrfa Cymru.

Cewch ragor o wybodaeth am yr ULN drwy ddarllen y daflen ffeithiau (yn Dolenni perthnasol).

Sefydliadau eraill (Cysylltiadau allanol)