Skip to content

Gwybodaeth ar gyfer darparwyr ac ymgynghorwyr addysg

Dolenni perthnasol

Rhan hanfodol o raglen ddiwygio'r cymwysterau galwedigaethol yw'r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh), sy'n rhan o'r Fframwaith Credydau a Chymwysterau ehangach ar gyfer Cymru.
Mae’r daflen hon yn ganllaw cyflym ar gyfer cyflogwyr, dysgwyr ac eraill sydd â diddordeb yn hyn o beth.
Gwybodaeth gyffredinol ynghylch Cymwysterau Galwedigaethol.
Gwybodaeth ar gyfer Darparwyr dysgu ôl-16: colegau AB, Darparwyr Hyfforddiant, Sefydliadau Addysg Uwch, Darparwyr Dysgu Oedolion a’r Gymuned, Cwmnïau Preifat a Sefydliadau Gwirfoddol.
Mae'r dull gwahanol sy'n cael eu ddefnyddir yng Nghymru i drawsnewid sut mae pobl ifanc yn cael eu haddysg.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) yn derbyn pob math o ddysgu o fewn fframwaith cydnabod cyffredin.

Mae'n berthnasol i addysg uwch, cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol (er enghraifft, cymwysterau FfCCh, gan gynnwys NVQs) a 'dysgu gydol oes' gyda sicrwydd ansawdd, cymeradwy sy'n cynnwys addysg oedolion yn y gymuned, hyfforddiant pwrpasol i gwmnïau a DPP.

Mae gan FfCChC dair egwyddor gyffredin:

  • mynegi cyflawniad fel deilliannau dysgu
  • y gofynion y mae'n rhaid i'r dysgwyr eu bodloni i sicrhau'r deilliannau dysgu (lefel)
  • maint cyflawniadau dysgu (credyd).

Mae lefel a gwerth credyd gan bob cymhwyster galwedigaethol sy'n:

  • galluogi dysgwyr i adeiladu cymwysterau drwy gwblhau unedau - bydd hyn yn fodd i gymell ac yn annog rhai dysgwyr
  • annog dysgwyr o bob oed a'u helpu i ennill y sgiliau a'r cymwysterau sy'n ateb anghenion cyflogwyr
  • Cynnig ffordd o gydnabod dysgu a hyfforddiant seiliedig ar waith y gellir ei asesu ac sydd â gwerth credyd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar FfCChC a FfCCh isod.

Mae Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru wedi cael ei alinio â'r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (FfCE). Mae hyn yn golygu bod modd cymharu lefel cymhwyster a enillwyd yng Nghymru yn erbyn lefel yn y FfCE - mae hyn yn helpu pobl a sefydliadau i drosi cyflawniad ar draws Ewrop.

Rhif Unigryw'r Dysgwr (ULN) a'i bwysigrwydd i'ch dysgwyr

Yng Nghymru, bydd myfyrwyr ym Mlwyddyn 9 hyd at Flwyddyn 13 yn y flwyddyn academaidd 2011/12 yn cael ULN yn yr ysgol. Yn y blynyddoedd dilynol, dim ond myfyrwyr Blwyddyn 9 fydd yn cael ULN. Mae darparwyr Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith wedi bod yn rhoi ULNs i'w dysgwyr ers Medi 2010.

Mae'r ULN yn rhif 10 digid a ddefnyddir ym myd addysg. Mae'n cyfateb i rif Yswiriant Gwladol a chaiff ei roi unwaith yn unig. Bydd yn lleihau'r gwaith gweinyddol wrth gofrestru myfyrwyr ar gwrs, yn enwedig wrth iddynt symud o'r ysgol i Addysg Bellach ac Addysg Uwch.

Mae'n darparu cyfrwng i gofnodi pob cyflawniad mewn cofnodion dysgu personol dysgwyr, a rhoddir rhagor o wybodaeth isod.

Mae'r Cofnod Dysgu Personol (CDP) yn gofnod ar-lein o'r cymwysterau a enillwyd o 16 oed. Bydd y dysgwr yn rheoli mynediad i'w CDP. Bydd rhaid i diwtoriaid Derbyn, Darparwyr Hyfforddiant a chyflogwyr y dyfodol gael caniatâd i edrych arno. Gellir defnyddio'r CDP i ddilysu cyflawniadau hyfforddiant a dysgu. Bydd yn helpu Cynghorwyr Gyrfaoedd hefyd i roi cyngor gyrfaoedd perthnasol, wedi'i deilwra. Bydd y CDP yn cael ei gyrchu drwy wefan Gyrfa Cymru.

Sefydliadau eraill (Cysylltiadau allanol)