Skip to content

Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd

Dolenni perthnasol

Mae pob adran o LFfCChC ar gael i'w lawrlwytho yma.
Mae cydnabod dysgu y tu allan i Addysg Uwch ac Addysg a Hyfforddiant Cyffredinol a Galwedigaethol (Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch a GVET) yn gysyniad pwysig yng Nghymru.

Mae'n adlewyrchu dealltwriaeth y dylid gwerthfawrogi a chydnabod pob math o ddysgu lle bynnag a phryd bynnag y'i cyflawnir.

Mae datblygiad Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd yn sicrhau ffordd o gydnabod y wybodaeth a ddysgir neu'r sgiliau a feithrinir, mesur yr hyn a ddysgir, sicrhau ansawdd yr hyn a ddysgir a dyfarnu credyd amdano.

Mae Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd yn galluogi unigolion i ddangos eu cyflawniadau mewn modd priodol er mwyn ategu cynnydd personol a phroffesiynol.

Ym maes diwydiant a masnach, ceir tystiolaeth glir y gall y broses o gydnabod dysgu a datblygiad personol arwain at ganlyniadau mwy effeithiol o ran hyfforddiant ac mewn gwirionedd leihau'r gost gyffredinol o ailadrodd dysgu anghydnabyddedig.

Mae'r system Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd yn caniatáu i gwmnïau drefnu hyfforddiant mewnol wedi'i deilwra, datblygiad proffesiynol parhaus, a mathau eraill o ddysgu a gaiff eu cydnabod ac y dyfernir credyd amdanynt.

Manteision posibl Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd yw ei fod yn darparu:

  • proses ddefnyddiol i fesur sgiliau cynhenid neu sgiliau a gafaelir ymhlith y gweithlu neu ymhlith oedolion sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithlu
  • yn achos dysgwyr newydd neu ddysgwyr sydd â diffyg hyder yn eu gallu eu hunain, mae'r broses o ennill unedau Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd yn arwydd o'u gallu i ddysgu a gall fod yn hwb i'w hyder ac yn llwybr i ddysgu, hyfforddiant neu gymwysterau pellach
  • ffordd o leihau achosion o ddyblygu hyfforddiant drwy ddefnyddio unedau Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd i gydnabod yr hyn a ddysgir a'r sgiliau a gafaelir drwy ddyfarnu credyd
  • ffordd o ychwanegu gwerth at ddiwrnodau hyfforddiant ac felly annog ymagwedd fwy cadarnhaol at hyfforddiant
  • system o asesu effaith a choseffeithiolrwydd hyfforddiant o ran cynhyrchiant neu berfformiad ar gyfer y rheolwr llinell neu'r goruchwylwyr sy'n asesu perfformiad fel rhan o asesiad o'r uned Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd
  • ffordd o ddiwallu anghenion hyfforddiant cyflogwyr, tra'n rhoi cydnabyddiaeth i'r cyflogai am hyfforddiant y gellir ei ddatblygu yn hyfforddiant a/neu'n gymwysterau pellach
  • adnodd posibl i ddatblygu'r gweithlu. Gall cyflogwyr ddefnyddio Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) i nodi'n fwy penodol lefelau sgiliau gofynnol. Mae'n cydnabod hyfforddiant a DPP a gellir ei gysylltu ag arfarniadau ac adolygiadau o'r ffordd y caiff swyddi eu graddio
  • cymeradwyaeth o ansawdd yr uned o ran ei chynnwys, ei lefel a'r gwaith o'i chyflwyno a'i hasesu drwy ddyfarnu credyd. Mae hyn yn sicrhau y rhoddir yr un lefel o barch i ddysgu neu hyfforddiant, ni waeth lle, sut, pryd na chan bwy y'i darperir i ddysgwyr.

Sefydliadau eraill (Cysylltiadau allanol)