Skip to content

Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru i Gymru ac Ewrop

Dolenni perthnasol

Mae eich ULN yn aros gyda chi drwy gydol eich oes, fel eich Rhif Yswiriant Gwladol, heblaw ei fod yn berthnasol i’ch addysg.
Gwybodaeth ar gyfer Darparwyr dysgu ôl-16: colegau AB, Darparwyr Hyfforddiant, Sefydliadau Addysg Uwch, Darparwyr Dysgu Oedolion a’r Gymuned, Cwmnïau Preifat a Sefydliadau Gwirfoddol.
Mae dysgu yn newid - am byth!

Ym mis Mai 2011 roedd Llywodraeth Cymru wedi lansio pecyn DVD a CD-ROM dwyieithog yn esbonio Rhif Unigryw'r Dysgwr a'r Gwasanaeth ULN ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi i Awdurdodau Lleol a staff ysgol ac wedi estyn cyllid i ysgolion ar gyfer y Tîm Cymorth Canolog am ddwy flynedd arall i helpu i'w weithredu.

Mae'r DVD yn dilyn myfyriwr ysgol wrth iddi wneud cais am gwrs busnes yn ei choleg lleol ac mae hi'n mynd am gyfweliad gyda chyflogwr, gan ddefnyddio ei chofnod dysgu personol (CDP) fel rhan o'i gwybodaeth ymgeisio. Mae'r stori wedi'i hategu gan ganllaw cam wrth gam i staff ar sut i gofrestru gyda chofrestr y DU o ddarparwyr dysgu, cael ULNs a rheoli eithriadau.

Mae'r DVD wedi'i ategu gan CD-ROM sy'n cynnwys cyflwyniad PowerPoint a thaflenni sy'n esbonio'r ULN a gweithredu cymwysterau QCF fel rhan bwysig o Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.

Cynhaliwyd tri digwyddiad lansio ym mis Mai 2011 yn Llanelwy (Gogledd Cymru), Llandrindod (Canolbarth Cymru) a Chaerdydd (De Cymru). Daeth dros 250 o gynrychiolwyr i'r digwyddiadau. Yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru traddodwyd y brif araith gan Stephen McMillan, Pennaeth Rheoli Gwybodaeth yn Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru. Yn Ne Cymru, Mary Curnock-Cook, Prif Weithredwr UCAS, oedd wedi traddodi'r brif araith. Roedd y ddau wedi pwysleisio'r manteision y bydd yr ULN yn eu cynnig i ddysgwyr yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i hybu ymagwedd gyffredin â phartneriaid ledled y DU drwy rannu'r deunyddiau.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: miap@wales.gsi.gov.uk

Sefydliadau eraill (Cysylltiadau allanol)