Skip to content

Cymeradwyo Cymwysterau

Yng Nghymru, mae cymwysterau cymeradwy yn gymwys i gael cyllid gan Awdurdod Addysg Lleol neu Lywodraeth y Cynulliad. Mae manylion y cymwysterau hyn ar gael yng Nghronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwy Cymru (DAQW).

O dan adrannau 96 a 99 Deddf Dysgu a Sgiliau 2000, gall ysgolion, sefydliadau a chyflogwyr yng Nghymru gynnig cyrsiau sy’n arwain at gymhwyster allanol i unigolion o dan 19 oed. 

Byddai hyn yn cael ei ariannu naill ai gan Awdurdod Addysg Lleol neu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, cyhyd â bod y cymhwyster wedi’i gymeradwyo.

Gellir gweld manylion cymwysterau cymeradwy ar Gronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwy Cymru (DAQW). 

Mae DAQW yn cynnwys manylion am bob cymhwyster a gymeradwyir i’w addysgu yng Nghymru i ddysgwyr o dan 19 oed, ac eithrio addysg uwch.  

Mae’n cael ei diweddaru’n gyson wrth i gymwysterau newydd gael eu hachredu a’u cymeradwyo.  Mae’r wybodaeth ar DAQW yn cynnwys dyddiadau terfyn, categorïau oedran, pwyntiau perfformiad, ac a yw’r cymhwyster yn cyfrif fel dewis ar gyfer Llwybrau Dysgu 14-19.

Cronfa ddata y gellir ei chwilio yw DAQW, a gallwch arbed eich canlyniadau neu eu hargraffu.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan DAQW.