Skip to content

Tystysgrif Addysg Gyffredinol (TAG) Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch

Mae TAG Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch ar gael mewn amrywiaeth eang o bynciau.

TAG Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch: Prif nodweddion

Mae cymhwyster safon uwch yn cynnwys unedau uwch gyfrannol (AS) ac unedau A2.

Mae’r Safon Uwch Gyfrannol yn gymhwyster ar wahân sy’n gyfwerth â hanner cymhwyster Safon Uwch llawn. Fel arfer, mae’n cynnwys dwy uned (a asesir i’r safon a ddisgwylir gan fyfyriwr sydd hanner ffordd drwy gwrs Safon Uwch). Gyda’i gilydd, mae’r ddwy uned hon yn cyfrannu 50 y cant o’r Safon Uwch lawn.

Yr A2 yw ail hanner cymhwyster Safon Uwch llawn. Fel arfer, mae’n cynnwys dwy uned (a asesir i’r safon a ddisgwylir gan fyfyriwr ar ddiwedd cwrs Safon Uwch llawn). Gyda’i gilydd, mae’r ddwy uned yn gyfwerth â 50 y cant o’r Safon Uwch lawn.

Cyn mis Medi 2008, roedd cymwysterau Safon Uwch yn cynnwys tair uned Uwch Gyfrannol (AS) a thair uned A2.

Asesir mwyafrif yr unedau drwy arholiadau ond defnyddir asesu mewnol ar gyfer rhai o’r unedau. Mae’r AS yn ymdrin â deunydd llai heriol y cwrs Safon Uwch, tra bo’r A2 yn ymdrin â’r deunydd mwy heriol. Yn yr A2, bydd y myfyrwyr yn:

  • astudio pynciau mewn mwy o ddyfnder; 
  • estyn eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r pwnc drwy astudio testunau newydd;
  • cyfuno gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o bob rhan o’r cwrs Safon Uwch.

Manylebau newydd 2008

Newidiwyd rhai o’r manylebau yn 2008, gan gynnwys dyfarnu gradd A* newydd o 2010 ymlaen i’r myfyrwyr a oedd wedi cyflawni’r cyraeddiadau canlynol:

  • Gradd A gyffredinol (h.y. 80 y cant o’r uchafswm marciau unffurf ar gyfer y cymhwyster Safon Uwch cyfan); 
  • 90 y cant o’r uchafswm marciau unffurf ar gyfanswm agregedig sgoriau’r unedau A2.

Dyfernir y radd A* ar gyfer cymhwyster Safon Uwch yn unig, nid ar gyfer y cymhwyster Uwch Gyfrannol nac ar gyfer unedau unigol.

TAG Safon Uwch Gyfrannol/Safon Uwch mewn Pynciau Cymwysedig

Mae TAG Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch ar gael mewn pynciau cymwysedig yn ogystal â phynciau traddodiadol.

Dyfarniadau Uwch Estynedig

Mae’r dyfarniad uwch estynedig wedi’i ddiddymu ers Mehefin 2009, ac eithrio mewn Mathemateg, lle bydd yn parhau tan fis Mehefin 2013 o leiaf. (Cynigir hwn gan EDEXCEL – ceir rhagor o wybodaeth ar wefan EDEXCEL).

Cynhaliwyd arholiadau cyntaf y Dyfarniad Uwch Estynedig ym mis Mehefin 2002. Fe’i cyflwynwyd er mwyn rhoi her ychwanegol i’r myfyrwyr sydd yn y 10 y cant uchaf drwy’r wlad a helpu i wahaniaethu rhwng yr ymgeiswyr mwyaf galluog.

Roedd y newidiadau a wnaed yn 2008 i fanylebau’r Safon Uwch er mwyn ‘ymestyn a herio’ a chyflwyno gradd A* yn cyflawni’r un amcanion â’r Dyfarniad Uwch Estynedig i bob pwrpas. O ganlyniad, penderfynwyd diddymu’r cymhwyster Dyfarniad Uwch Estynedig.

Rheoleiddio’r TAG Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch

Adwaenir y Safon Uwch Gyfrannol a'r Safon Uwch fel ‘cymwysterau wedi’u rheoleiddio’. Rhaid i’r Safon Uwch Gyfrannol a’r Safon Uwch gyflawni meini prawf penodol a gytunir ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fel arfer. Ceir rhagor o wybodaeth am reoleiddio cymwysterau, gan gynnwys y Safon Uwch Gyfrannol a’r Safon Uwch, yn yr adran o’r wefan hon sy’n ymdrin â Rheoleiddio Cymwysterau.

Y TAG Safon Uwch Gyfrannol/Uwch sydd ar gael ar hyn o bryd

Yn yr adran ‘Cymwysterau Cymeradwy’ o’r wefan hon, rhoddir rhestr o’r holl TAG Safon Uwch Gyfrannol/Uwch (gan gynnwys Safon Uwch Gyfrannol/Uwch mewn pynciau cymwysedig) sydd wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae pum corff dyfarnu sy’n cynnig cymwysterau TAG Safon Uwch Gyfrannol / Safon Uwch, a chewch wybod beth sydd ar gael drwy ymweld â’u gwefannau: