Skip to content

Cymwysterau Prif Ddysgu

Mae cymwysterau Prif Ddysgu yn rhoi cyflwyniad gwych i sectorau gwaith gwahanol ac i ddysgu trwy gyfuniad o weithgareddau damcaniaethol, ymarferol a rhai sy’n gysylltiedig â gwaith.

Maent yn rhoi gwybodaeth i ddysgwyr am y sectorau ac yn rhoi’r sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy iddynt y mae diwydiant, hyfforddiant, addysg bellach ac addysg uwch eu heisiau.

Mae Cymwysterau Prif Ddysgu bellach ar gael fel opsiynau fel rhan o Gymhwyster Bagloriaeth Cymru. O fis Medi 2012, bydd Prif Ddysgu hefyd ar gael fel cymhwyster annibynnol.

Bydd yn rhaid i’r dysgwr dreulio o leiaf hanner ei amser yn cymhwyso gwybodaeth a sgiliau trwy dasgau sy’n berthnasol i’r gwaith yn y sector hwnnw (dysgu cymhwysol).

Mae Cymwysterau Prif Ddysgu yn cael eu cynnig ar lefel 1 [Sylfaen], lefel 2 [Canolradd] a lefel 3 [Uwch].

Mae cymwysterau Prif Ddysgu yn cynnig cyfleoedd cyffrous i weithio gyda chyflogwyr. Gall busnesau gymryd rhan mewn nifer o wahanol ffyrdd gan wneud y dysgu yn llawer mwy perthnasol i’r byd go iawn. Er enghraifft:

  • darparu cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith;
  • gosod prosiectau dylunio;
  • rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr;
  • bod yn fentoriaid;
  • derbyn ymweliadau i’r gweithle;
  • cyfrannu at ddeunyddiau dysgu.

Mae Cymwysterau Prif Ddysgu ar gael mewn 14 o linellau dysgu gwahanol.

Cam 1

  • Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
  • Peirianneg
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Creadigol a’r Cyfryngau.

Cam 2

  • Cymdeithas, Iechyd a Datblygu
  • Astudiaethau Amgylcheddol a Diwydiannau’r Tir
  • Gweithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch
  • Trin Gwallt a Harddwch
  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Busnes, Gweinyddiaeth a Chyllid.

Y Cam Olaf

  • Manwerthu
  • Chwaraeon a Hamdden
  • Teithio a Thwristiaeth
  • Gwasanaethau Cyhoeddus.